Mae busnesau yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan ledaeniad cyflym Omicron, yn cael eu hannog i wneud cais i'w cyngor lleol am gymorth ariannol, os ydyn nhw’n gymwys i wneud hynny.
Mae dau grant yn cael eu gweinyddu gan gynghorau ar ran Llywodraeth Cymru.
Gall busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yng Nghymru gael eu hystyried am daliad o £2,000, £4,000 neu £6,000 yn dibynnu ar eu gwerth ardrethol. Cafodd y gronfa ei hagor ar gyfer grant Ardrethi Annomestig ei hagor ar 13 Ionawr 2022. Bydd y gronfa ar agor tan ddydd Llun, 14 Chwefror 2022.
Mae’r gronfa hefyd yn cael ei weinyddu gan gynghorau lleol er mwyn cefnogi busnesau'r pedwar sector sydd wedi eu heffeithio. Gall y gronfa ddarparu £1,000 i fasnachwyr, gweithwyr llawrydd, a £2,000 i fusnesau cyflogedig cymwys sydd wedi eu heffeithio'n ariannol gan y cyfyngiadau i'r sectorau busnes maen nhw’n eu cyflenwi. Mae modd gwneud ceisiadau i'r gronfa ddewisol tan 14 Chwefror 2022.
Daw'r grant cymorth ariannol a busnes yn dilyn cyhoeddiad gan y Gweinidog Economi Vaughan Gething, y byddai £120 miliwn ar gael ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yng Nghymru, sydd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau diweddaraf, yn ogystal â'u cadwyni cyflenwi yng Nghymru.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, llefarydd Datblygu Economaidd, Mewnfuddsoddi ac Ynni CLlLC:
"Drwy gydol y pandemig, mae awdurdodau lleol wedi gweithio'n galed i gefnogi busnesau sydd wedi cael eu taro gan yr anawsterau mawr syn cael ei achosi gan y pandemig. Rydym yn croesawu’r pecyn diweddaraf o £120 miliwn gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn helpu i leddfu'r pwysau ar fusnesau Cymru.
"Rydym yn annog unrhyw fusnesau sy’n gymwys i ymweld â gwefan eu hawdurdod lleol i gael rhagor o fanylion, ac i wneud cais am gyllid cyn i geisiadau gau."
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y grantiau uchod, edrychwch ar wefan eich awdurdod lleol am ragor o fanylion. Gall busnesau hefyd gael mynediad at gronfeydd yr Awdurdod Lleol drwy wefan Busnes Cymru COVID-19 Cymorth i Fusnes.
-DIWEDD-
Nodiadau i olygyddion: