Cyfarfu arweinwyr â Phrif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw i drafod ymateb ar y cyd i Coronavirus Newydd (COVID-19).
Cafodd yr achos cyntaf yng Nghymru ei gadarnhau heddiw, wedi i glaf gontractio’r feirws yng Ngogledd yr Eidal.
Mae coronavirus yn cynnwys symptomau tebyg i ffliw gan gynnwys twymyn, peswch neu anhawster anadlu. Y dystiolaeth gyfredol yw ei bod yn ymddangos bod y mwyafrif o achosion yn ysgafn.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:
“Yn gynharach heddiw, derbyniodd awdurdodau lleol ddiweddariad gan Brif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru, y GIG a Llywodraeth Cymru i weithredu’r ymateb sydd eisoes wedi’i gynllunio.
“Hoffwn sicrhau trigolion bod Cymru, ynghyd â gweddill y DU, wedi paratoi’n dda ar gyfer digwyddiad o’r math hwn, gyda mesurau cadarn i reoli heintiau yn eu lle er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.”
“Os oes gan y cyhoedd unrhyw bryderon, mae’r holl wybodaeth a’r cyngor diweddaraf i’w cael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.”
-DIWEDD-
Cyfeiriad gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ydi: https://icc.gig.cymru/