Adnoddau - Defnydd Tir

 

Teclyn a Chanllawiau Defnydd Tir a Secwestriad Carbon CLlLC 

Mae'r teclyn mapio yn rhan o lyfrgell o setiau data a mapiau i gefnogi cynghorau i ddeall effaith carbon eu mathau o dir a chynefinoedd.


Cronfa Data Asesiad Cymeriad Tirwedd (Sefydliad Tirwedd)

Mae cronfa ddata Asesiad Cymeriad Tirwedd (ACT) yn cynnwys dros 500 o Ardaloedd Cymeriad Tirwedd o raddfa leol i ranbarthol ar draws y DU ac Iwerddon. Datblygwyd yr adnodd sydd ar gael yn agored gyda chefnogaeth Natural England, NatureScot, Cyfoeth Naturiol Cymru, Transport Infrastructure Ireland ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon DAERA (NIEA).


Dylunio a chynllunio coed mewn lleoliadau trefol, ac mewn datblygiad yn ehangach

Mae hyn yn arbennig o berthnasol er mwyn lliniaru effaith newid hinsawdd mewn ardaloedd trefol, gan ddefnyddio coed i wella ansawdd aer ac i ddatblygu cynlluniau isadeiledd gwyrdd.

 

Coed trefol

Adran bwrpasol ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n amlinellu buddion gorchudd canopi coed trefol, gan gynnwys dolenni cyswllt i asesiadau CNC.

 

Canllawiau technegol ar goed trefol wedi’u paratoi gan y Grŵp Gweithredu Coed a Dylunio (TDAG) a dylunio gorchudd coed trefol ar gyfer ansawdd aer, gwres, dŵr, dethol rhywogaethau a darparu coedwig drefol.

 

Coed, coetiroedd a fforestydd

Canllawiau gan Cyfoeth Naturiol Cymru am bob agwedd ar goetir a choedwigoedd gan gynnwys rheoli a chreu coetir, mannau gwyrdd gan gynnwys pecyn gwaith mannau gwyrdd ac asesiadau isadeiledd gwyrdd, gyda chanllawiau ar sut i ddefnyddio setiau data allweddol CNC.

 

Mae Urban Tree Manual a’r Urban Regeneration Greenspace Partnership yn darparu dolenni cyswllt i adnoddau pellach.


Map Cyfle Coetir 2021 (Llywodraeth Cymru)

Gall y map gefnogi cynghorau wrth ystyried cyfleoedd plannu coetiroedd newydd. Ei nod yw sicrhau bod coed yn cael eu plannu yn y lle iawn er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf posibl.


Cadwyni cyflenwi, cynllunio defnydd tir a'r economi gylchol - 2021 (Aelodau LGiU)

Mae’r papur briffio hwn yn archwilio pwysigrwydd deall cadwyni cyflenwi er mwyn integreiddio nodau economi gylchol yn effeithiol â chynllunio defnydd tir a datblygu economaidd.


Ailddefnyddio Mannau ac Adeiladau yn Gynaliadwy a Chylchol - 2020 (Comisiwn Ewropeaidd)

Gall y llawlyfr hwn fod yn arf defnyddiol i osod y sylfeini ar gyfer strategaeth gyffredinol sy’n edrych ar fodel newydd o reoli ailddefnyddio trefol gan ddilyn egwyddorion yr economi gylchol.


Deunyddiau at Dir yn yr Economi Gylchol - 2019 (SEPA)

Mae’r fframwaith hwn yn disgrifio dull SEPA i gymhwyso deunyddiau eilaidd i dir.


 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30