Yr wythnos hon, argymhellodd Grŵp Cynghori Technegol Cymru, sy’n darparu cyngor gwyddonol a thechnegol i’r Llywodraeth yn ystod argyfyngau, wrth y Gweinidog y dylai ysgolion “gynllunio i agor ym mis Medi gyda 100% o’r disgyblion yn bresennol ar safleoedd ysgolion, yn amodol ar ostyngiad parhaus a chyson ym mhresenoldeb COVID-19 yn y gymuned.”
Bydd y papur, sy'n cynnwys y cyngor, yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Cyhoeddodd y Gweinidog y canlynol:
- Bydd ysgolion yn dychwelyd i gapasiti llawn gydag elfen gyfyngedig yn unig o gadw pellter cymdeithasol oddi mewn i grwpiau cyswllt.
- Wrth weithredu’n llawn, dylai grŵp cyswllt gynnwys tua 30 o blant. Bydd rhywfaint o gymysgu uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng plant mewn gwahanol grwpiau cyswllt hefyd yn amhosibl ei osgoi, fel ar gludiant, wrth dderbyn addysg arbenigol neu oherwydd cyfyngiadau staffio.
- Dylai pob ysgol barhau i fod yn “Ddiogel Rhag Covid” – wedi cynnal asesiadau risg a lliniaru unrhyw risg gyda chyfuniad o fesurau rheoli fel hylendid dwylo ac arwynebau, systemau un ffordd ac ati.
- Os yw gwybodaeth rybuddio gynnar yn dangos digwyddiad neu achosion lleol, dylai’r ysgolion cyfagos weithredu mesurau cyfyngu priodol.
- Bydd cyflenwad o becynnau profi cartref ar gael ym mhob ysgol.
Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd tymor yr hydref yn dechrau ar Fedi 1 ac y dylai ysgolion sy’n gallu croesawu’r disgyblion i gyd o ddechrau’r tymor wneud hynny.
Bydd cyfnod o hyblygrwydd i gydnabod y bydd ysgolion eisiau canolbwyntio ar rai grwpiau blwyddyn â blaenoriaeth, fel y rhai sydd newydd ddechrau mewn ysgolion uwchradd, y rhai sy’n sefyll arholiadau yr haf nesaf neu’r rhai sydd yn y dosbarthiadau derbyn. Bydd hyn hefyd yn rhoi amser, hyd at bythefnos, ar gyfer unrhyw gynllunio ac ad-drefnu. Bydd canllawiau pellach yn dilyn ar addysg feithrin, oherwydd y cymhlethdodau unigryw a'r goblygiadau pellach i ddysgwyr iau.
Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd y bydd canllawiau gweithredol a dysgu diwygiedig yn cael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf. Mae swyddogion addysg y Llywodraeth yn cael cefnogaeth gyda’r gwaith hwn gan awdurdodau lleol, penaethiaid, swyddogion iechyd cyhoeddus, undebau athrawon ac ymarferwyr addysg. Amlinellodd y Gweinidog y cynlluniau oriau yn unig ar ôl cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £29m ar gael i ‘recriwtio, adfer a chodi safonau’ yn ysgolion Cymru fel ymateb i effaith y pandemig, sydd i’w theimlo o hyd.
Wrth siarad ym mriff dyddiol Llywodraeth Cymru heddiw, bydd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn dweud:
"Rydyn ni’n gwybod bod Covid-19 wedi achosi difrod difrifol, yn enwedig i’n pobl ifanc. Rwy’ wedi dweud drwy gydol y pandemig mai’r flaenoriaeth yw darparu cymaint â phosib o addysg gan amharu cyn lleied â phosib ar ein pobl ifanc.
"Mae pob penderfyniad wedi bod yn seiliedig ar yr wybodaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf. Diolch i ymagwedd ofalus Cymru, mae presenoldeb Covid yn ein cymunedau yn dirywio. Gan ddisgwyl y bydd hyn yn parhau, y cyngor rwy’ wedi ei dderbyn yw y gall ysgolion baratoi i agor ym is Medi gyda’r holl ddisgyblion yn bresennol."
Wrth gyfeirio at y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd, dywedodd y Gweinidog:
"Byddwn yn recriwtio, yn adfer ac yn parhau i godi safonau. Gyda'r cyllid hwn, byddwn yn recriwtio'r hyn sy’n cyfateb i 600 o athrawon ychwanegol a 300 o gynorthwywyr addysgu drwy gydol y flwyddyn ysgol nesaf. Byddwn yn targedu cymorth ychwanegol at Flynyddoedd 11, 12 a 13, yn ogystal â dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed o bob oed.
"Gallai'r pecyn cymorth, a ddarperir ar lefel ysgol, gynnwys cymorth hyfforddi ychwanegol, rhaglenni dysgu personol ac amser ac adnoddau ychwanegol ar gyfer disgyblion y blynyddoedd sy'n sefyll arholiadau. Ni ddylem fyth ostwng ein disgwyliadau ar gyfer unrhyw un o'n pobl ifanc, ni waeth beth yw eu cefndir. Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i godi safonau ar gyfer pawb, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau bod gennym ni system sy’n ffynhonnell o falchder a hyder ymhlith y cyhoedd."
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, llefarydd CLlLC ar Addysg:
"Ers i ysgolion gau ar ddechrau’r argyfwng, mae nifer o blant a phobl ifanc wedi bod yn teimlo’n bryderus am golli cyfleoedd dysgu a methu gweld eu ffrindiau. Bydd cynllun y Gweinidog heddiw yn galluogi ysgolion i ailagor eu dosbarthiadau yn ddiogel o fis Medi ymlaen. Bydd awdurdodau lleol yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion er mwyn sicrhau bod y trefniadau angenrheidiol yn eu lle i gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru.
"Mae’n hysgolion wedi cael eu taro’n ddifrifol yn ystod y pandemig hwn, ac rydym yn croesawu’r £29m y mae’r Gweinidog wedi ei addo ar gyfer cymorth penodol i gyfyngu ar effaith yr ychydig fisoedd diwethaf ar ddisgyblion. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd, mewn partneriaeth er mwyn sicrhau’r profiadau dysgu gorau ac mwyaf diogel posib i’n plant a’n pobl ifanc, yn arbennig dan amgylchiadau mor heriol."