Wedi Cyllideb yr Hydref gan Lywodraeth y DU, mae cynghorau yn troi eu golygon at Lywodraeth Cymru i ddarparu setliad cyllidebol a fydd yn eu cefnogi i wireddu amcanion cyffredin.
Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn wynebu pwysedd o £559m yn 2025-6, gan ddisgwyl iddo gynyddu i dros £1bn dros y ddwy flynedd ddilynol.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cyllid CLlLC:
“Er y byddwn yn cymryd amser i ystyried y goblygiadau llawn i gynghorau Cymru, rwy'n croesawu'r cyfeiriad newydd a nodir yn y Gyllideb. Mae blaenoriaethau llywodraethau’r DU, Cymru a lleol wedi'u cyd-fynd yn llawn, a bydd cyhoeddiadau'r Canghellor yn helpu i gefnogi eu cyflawni.
“Bydd y £1.7bn ar gyfer Llywodraeth Cymru yn helpu i alluogi Gweinidogion i gefnogi gwasanaethau cyngor i gyflawni eu blaenoriaethau ac i fuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol.
“Bydd llu o fesurau yn rhoi chwistrelliad arian parod ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys £1.3bn i gynghorau Lloegr, gan gynnwys ymrwymiad ariannu £600m ar gyfer gofal cymdeithasol, a hwb o £500m ar gyfer cartrefi fforddiadwy. Bydd llywodraeth leol yng Nghymru yn edrych ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid canlyniadol yn llawn i gefnogi cyfraniad cynghorau at gyflawni'r uchelgeisiau hyn.
“Rwyf hefyd yn croesawu cadarnhad o'r flwyddyn ychwanegol o Gyllid Ffyniant a Rennir, fel y mae CLlLC wedi galw amdano ers tro. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd o ran cynllunio cyllidebau a byddwn yn edrych ymlaen at gael mwy o fanylion.”
Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Grŵp Annibynnol CLlLC:
“Mae cynghorau Cymru wir yn teimlo'r straen wrth i gostau barhau i godi a galw tyfu. Heb gyllid cynaliadwy, hirdymor sy'n adlewyrchu maint y pwysau hwn, mae'n anodd gweld sut y gallwn gadw i fyny. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu hymgysylltiad â llywodraeth leol. Ond wrth i ni edrych at y setliad ar gyfer cynghorau Cymru, bydd angen cydnabyddiaeth arnom o raddfa’r sefyllfa ar gyfer ein gwasanaethau lleol hanfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC:
“Mae'r £1.7b ychwanegol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyngor hanfodol fel ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, ffyrdd, tai a llyfrgelloedd, yn dilyn degawd o gyni. Mae'n hollbwysig ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf i sicrhau eu bod ein deall ein pwyseddau cyllidebol a bod setliad cyllido teg a chynaliadwy ar gyfer cynghorau lleol yn cael ei gyrraedd.
“Mae'n arbennig o siomedig na welsom unrhyw ymrwymiadau ar gyfer seilwaith rheilffyrdd neu drafnidiaeth gyhoeddus Cymru nac unrhyw ymrwymiad i roi i Gymru ei chyfran gywir o gyllid canlyniadol HS2. Byddwn yn annog Llywodraeth y DU i achub ar y cyfle i gywiro'r anghyfiawnder amlwg hwn ac i alluogi Cymru i ariannu ei seilwaith hollbwysig.”
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Grŵp Democratiaid Rhyddfrydol CLlLC:
“Gyda chynghorau ledled Cymru yn teimlo pwysau ariannol dwys, mae'n hanfodol bod y cyllid rydym yn ei dderbyn yn adlewyrchu'n llawn y realiti sy'n wynebu ein gwasanaethau lleol.
“Er bod cyllideb y DU yn rhoi man cychwyn i'w groesawu, rydym nawr yn edrych at Lywodraeth Cymru i drosglwyddo'r cyllid canlyniadol angenrheidiol sy'n adlewyrchu maint y pwysau sy'n wynebu cynghorau lleol. Mae'r cyllid hwn yn hanfodol i gynnal gwasanaethau lleol hanfodol a sicrhau y gallwn ddiwallu anghenion ein cymunedau.”
DIWEDD –