Mae grŵp o staff ymroddedig o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Data Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) wedi cwblhau blwyddyn gyntaf eu taith dysgu Cymraeg yn llwyddiannus.
Ers yr hydref, mae cydweithwyr o bob rhan o'r tri sefydliad wedi dod at ei gilydd bob dydd Iau i gymryd rhan yn 'Mynediad 1' – y cwrs lefel mynediad gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae'r cwrs wedi cefnogi dysgwyr i feithrin hyder a datblygu eu sgiliau Cymraeg ochr yn ochr â'u gwaith o ddydd i ddydd.
Mae awdurdodau lleol yn cyfrannu at yr uchelgais i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg drwy weithredu strategaethau Cymraeg ar draws meysydd fel addysg, yr economi a gweithrediadau mewnol. Mae cynghorau hefyd yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle a thrwy ddarparu gwasanaethau, ac i helpu i greu amodau sy'n annog mwy o ddefnydd o'r iaith bob dydd.
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, llefarydd CLlLC ar gyfer y Gymraeg:
"Mae'n wych gweld cymaint o ymrwymiad gan staff i ddysgu Cymraeg a'i defnyddio yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n hunaniaeth genedlaethol a'n bywyd cyhoeddus, ac mae'n galonogol gweld sefydliadau'n creu lle i bobl ddysgu a thyfu mewn hyder. Mae mentrau fel hyn yn gam pwysig tuag at Gymru wirioneddol ddwyieithog.
Dywedodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg:
"Mae mwy o bobl nag erioed yn dysgu Cymraeg gyda'r Ganolfan Genedlaethol, sy'n arwain y sector Dysgu Cymraeg, sy'n cynnig addysgu arbenigol wyneb yn wyneb ac ar-lein, yn y gymuned, yn y gweithle, a thrwy gyrsiau sector-benodol.
"Mae ein cyrsiau yn y gweithle yn arbennig o boblogaidd, ac mae tua 2,000 o gyflogwyr wedi cymryd rhan yn y ddarpariaeth hon ers iddi gael ei chyflwyno gyntaf yn 2017.
"Rydym yn falch iawn o gefnogi'r gweithwyr ymroddedig yn y tri sefydliad hyn gyda'u taith iaith. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda chyflogwyr ac unigolion ledled Cymru i helpu i gyflawni Cymraeg 2050, strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."