Awdurdodau lleol Cymru i ddefnyddio cwmnïau gorfodi achrededig yn unig i gasglu trethi lleol

Dydd Mercher, 08 Tachwedd 2023

Drwy gefnogi gwaith y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi (ECB), mae CLlLC wedi cytuno y bydd awdurdodau lleol Cymru yn ymrwymo i ddefnyddio asiantaethau gorfodi achrededig yr ECB i gasglu’r dreth gyngor sy’n ddyledus yn unig. Yr ECB yw’r corff goruchwylio annibynnol ar gyfer y sector gorfodi, a sefydlwyd yn dilyn cydweithrediad rhwng y sector gorfodi sifil ac elusennau cyngor ar ddyledion blaenllaw.

 

Mae achrediad yn galluogi asiantaethau gorfodi i wneud ymrwymiad cyhoeddus gweithredol i atebolrwydd a cheisio cyrraedd safonau uwch.

 

Cymru yw’r gyntaf o wledydd y DU i wneud ymrwymiad o’r fath.

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd WLGA dros Gyllid ac Adnoddau:

 

“Mae casglu trethi lleol yn hanfodol ar gyfer cyllid y cyngor a thrwy ddefnyddio asiantaethau achrededig yn unig mae’n atgyfnerthu rôl y cyngor fel credydwr ystyriol a chyfrifol. Os cewch eich hun mewn trafferth gyda’ch treth gyngor, rydym yn eich annog i gysylltu â’ch cyngor lleol yn y lle cyntaf gan y gallant helpu a chynnig eich cyfeirio at ddarparwyr cyngor eraill os oes angen.”

 

Dywedodd Catherine Brown, cadeirydd y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi:

 

“Mae’r ECB wrth ei fodd bod Cymru wedi gwneud ymrwymiad mor bwysig i ddefnyddio cwmnïau gorfodi achrededig ar gyfer casglu’r dreth gyngor yn unig. Drwy wneud yr ymrwymiad hwn, mae CLlLC yn anfon neges hollbwysig i’r diwydiant gorfodi ynghylch gwerth atebolrwydd ac ynghylch cyrraedd safonau uchel.

 

“Mae’r ECB yn annog pob credydwr sy’n defnyddio cwmnïau gorfodi i ddefnyddio ein cynllun achredu ac i ddilyn esiampl bwerus Cymru.”

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30