Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynnal cynllun peilot o'r rhaglen Llwybrau at Gynllunio, menter i wella gwasanaethau cynllunio ledled Cymru. Mewn cydweithrediad â’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA), mae’r peilot hwn yn ceisio mynd i’r afael â phrinder gweithlu mewn Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLlau) trwy gynnig profiad a chymwysterau gwerthfawr i raddedigion diweddar.
Mae pedwar o raddedigion wedi sicrhau lleoliadau gyda thimau cynllunio yng Nghasnewydd, Sir Gaerfyrddin, Conwy a Chaerffili. Bydd y graddedigion hyn yn cael profiad ymarferol wrth astudio ar gyfer gradd Meistr ac achredwr gan RTPI, gyda chyllid ar gyfer eu hastudiaethau yn cael ei ddarparu fel rhan o’r peilot.
Mynegodd y Cynghorydd Rob Stewart, Llefarydd Cynllunio CLlLC, ei gefnogaeth, gan ddweud: "Mae'r cynllun peilot hwn yn hanfodol ar gyfer datblygu'r gweithlu medrus sydd ei angen i gwrdd â'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau. Drwy fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o gynllunwyr, rydym yn helpu i sicrhau bod awdurdodau lleol yn barod i fynd i’r afael â blaenoriaethau fel tai, datblygu economaidd, a gwydnwch hinsawdd.”
Bydd yr LGA yn recriwtio’r garfan nesaf ar gyfer y cynllun Llwybrau ym mis Hydref, ac os gellir sicrhau cyllid addas yng Nghymru, gallai ACLlau gael cyfle i gynyddu capasiti o fewn eu timau cynllunio.