CLlLC yn edrych ymlaen at drafodaethau ar y Rhaglen Lywodraethu: Gall Cynghorau gyflawni uchelgeisiau cenedlaethol Llywodraeth Cymru

Dydd Mercher, 16 Mehefin 2021

Wrth ymateb i gyhoeddiad heddiw o Raglen Lywodraethu newydd Llywodraeth Cymru, dyma ddywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd CLlLC:

 “Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei uchelgeisiau a’i flaenoriaethau yn ei Raglen Lywodraethu newydd.  Mae llywodraeth leol yn rhannu ac yn croesawu llawer o'r blaenoriaethau hyn, gan gynnwys y cynnig i dalu'r cyflog byw go iawn i weithwyr gofal; y cynigion i leihau'r beichiau gweinyddol a chryfhau ymreolaeth llywodraeth leol; a'r ffocws ar fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. 

Mae yna sawl cynnig a fydd angen eglurhad, manylder a thrafodaeth bellach, a dealltwriaeth o'r hyn maen nhw'n ei olygu i lywodraeth leol.  Edrychwn ymlaen at archwilio i’r rhain gyda Gweinidogion Cymru yn yr wythnosau sydd i ddod.  

Fel un o'r rhai sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru ochr yn ochr â'r GIG, bydd cynghorau lleol yn ganolog i gyflawni llawer o uchelgeisiau cenedlaethol Llywodraeth Cymru.  Mae'n bwysig felly bod llywodraeth leol yn cymryd rhan mor gynnar â phosibl wrth ddylunio a llunio'r blaenoriaethau polisi a deddfwriaethol sy'n dod i'r amlwg.   

Bydd angen amser ar arweinwyr cynghorau i ddadansoddi’r manylion, ond rwy’n croesawu’r uchelgais a gynhwysir yn y Rhaglen Lywodraethu hon ar gyfer ein cymunedau. Bydd yr uchelgais honno'n bwysig os ydym ni am ailadeiladu ac adfer yn dilyn profiadau rhyfeddol a thrawma'r pandemig.

Bydd llywodraeth leol yn falch bod Llywodraeth newydd Cymru wedi gwrando ar ei gofynion allweddol fel yr amlinellir ym Maniffesto beiddgar CLlLC ar gyfer Lleoliaeth. Mae cynghorau wedi dadlau ers tro dros ffocws ar wasanaethau ataliol, ac mae'n galonogol iawn gweld y pwyslais hwnnw ar y swyddogaethau pwysig hyn.

Yn ystod y pandemig, rydym wedi gweld yn fwy nag erioed bod cynghorau mewn sefyllfa ddelfrydol yng nghalon eu cymunedau i ddod o hyd i atebion lleol i ddarparu gwasanaethau. Bydd y berthynas agos rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, sydd wedi bod yn nodwedd mor gonglfaen yng Nghymru dros y 18 mis diwethaf, hyd yn oed yn fwy cyfannol os ydym am ddatgloi potensial y rhaglen hon dros dymor nesaf y Senedd.

Gyda chyllid teg a hyblyg cynaliadwy, gall cynghorau weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy fyth i drigolion ledled Cymru.”

-DIWEDD-

 

NODIADAU I OLYGYDDION

Mae Maniffesto CLlLC ar gyfer Lleoliaeth ar gael yma 

 

 

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30