Mewn ymateb i gyhoeddiad yr adolygiadau annibynnol diwylliant o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Llefarydd CLlLC dros Ddiogelwch Cymunedol:
“Mae canfyddiadau’r ymchwiliadau i ddiwylliannau mewnol Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru yn siomedig ac yn peri pryder. Er gwaetha’r gydnabyddiaeth bod gwelliannau wedi’u gwneud yn y blynyddoedd diwethaf canfu’r adroddiadau lefelau sylweddol o ymddygiad ac arfer annerbyniol sydd wedi effeithio’n negyddol ar staff yn y ddau wasanaeth.”
“Bydd CLlLC yn adolygu’r adroddiad a’i argymhellion yn fanwl ac yn asesu gwersi ehangach y mae angen mynd i’r afael â nhw. Fel aelod cyswllt, bydd CLlLC yn gweithio gyda’r Awdurdodau Tân ac Achub ac yn eu cefnogi yn eu hymateb i’r adroddiadau y dylid eu gwneud nid yn unig mewn geiriau ond mewn gweithredoedd, ac wrth newid diwylliannau i sicrhau bod pob gweithiwr yn cael ei drin ag urddas a pharch ym mhob achos.
“Mae CLlLC hefyd wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â’r Awdurdodau Tân ac Achub, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill a bydd yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau ar gynigion ynghylch gwelliannau i lywodraethu Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru.”