Mae CLlLC wedi ymateb heddiw i Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU.
Ymysg cyhoeddiadau’r Canghellor oedd rhewi cyflogau’r sector gyhoeddus y tu allan i’r GIG a £1.3bn yn ychwanegol mewn arian canlyniadol i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:
Byddwn ni’n cymryd amser i fanylu ar yr Adolygiad Gwariant a’r goblygiadau i Gymru. Tra bod y cyllid ychwanegol i gyllideb Llywodraeth Cymru i’w groesawu, gallai fod wedi mynd yn lawer pellach fel rhan o addewid Llywodraeth y DU i ‘lefelu’r wlad i fyny’ ac i gydnabod y dasg enfawr o sefydlogi ein cymunedau a’r economi wedi’r argyfwng.
Rydyn ni wedi gweld y cyhoedd yn diolch o waelod calon am waith ein gweithwyr sector gyhoeddus ymroddgar sydd wedi gofalu a darparu ar gyfer ein cymunedau, a’u cadw nhw i fynd, mewn amodau mor anodd. Dyna pam felly ei bod hi’n siomedig bod y Canghellor wedi cadarnhau ei fwriad i rewi cyflogau rhai yn y sector, yn enwedig o ystyried cyfraniad ac ymroddiad gweithwyr sector gyhoeddus hyd yma, a’r rôl hollbwysig y byddan nhw’n parhau i’w chwarae yn y misoedd i ddod wrth i ni edrych i adfer wedi’r argyfwng.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau:
“Mae cynghorau yng Nghymru wedi chwarae rhan enfawr yn helpu ein cymunedau wedi COVID. Mi fyddwn ni’n parhau i wneud hynny gan weithio gyda llywodraethau Cymru a’r DU fel eu gilydd. Mae’n hollbwysig bod Cymru yn cael y cyllid angenrheidiol i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus allweddol a’r gweithlu ymroddedig.
Rydyn ni hefyd angen mwy o wybodaeth ar sut y bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gweithio a’r symiau y bydd yn cael eu dyrannu mewn blynyddoedd i ddod fel ein bod yn gallu cynllunio ymlaen ac ailadeiladu ein economïau. Buaswn yn galw ar y Canghellor i ddarparu rhagor o sicrwydd i’n cymunedau a’n gweithwyr sector gyhoeddus.”
-DIWEDD-