Mewn ymateb i gadarnhad Llywodraeth Cymru ynghylch yr amserlen ar gyfer diwygio’r dreth gyngor, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cyhoeddi’r datganiadau canlynol gan arweinwyr grwpiau gwleidyddol:
Y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Grŵp Llafur:
"Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw ar ddiwygio system y dreth gyngor sydd wedi bod angen diweddariad am amser hir. Dylai'r diwygiad hwn helpu i sicrhau ei fod yn decach ac yn fwy cynaliadwy. Mae'n dda gweld bod y penderfyniad hwn yn dod ar ôl ymgynghori helaeth gan fod angen iddo adlewyrchu lleisiau cynghorau a phobl Cymru. Rhaid i unrhyw newidiadau a wneir roi blaenoriaeth i les ein cymunedau a diogelu gwasanaethau lleol hanfodol."
Y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Grŵp Annibynnol:
“Mae’r dirwedd ariannol bresennol, ar gyfer cynghorau a dinasyddion yn bendant yn llwm ac felly mae’n rhaid i unrhyw benderfyniadau ar y trethi y mae unigolion a theuluoedd yn eu talu gael eu gwneud trwy gydweithio ystyrlon a rhaid iddynt fod yn dryloyw. Mae’n gywir fod trethdalwyr yn cael cyfle rheolaidd i ymgysylltu â’r broses ailbrisio ac rwy’n falch o weld bod y Bil hwn yn caniatáu hynny. Yn fy marn i, byddai wedi bod yn well i’r diwygiad hwn ddigwydd yn gynharach na’r amserlen a awgrymwyd yn 2028, ond rwy’n cydnabod bod yn rhaid i’r Llywodraeth wrando ar y consensws cyffredinol a adlewyrchir ym mhob ymgynghoriad ystyrlon.”
Y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru:
"Mae cyhoeddi amserlen ar gyfer diwygio'r dreth gyngor yn gam sylweddol ymlaen wrth fynd i'r afael ag anghenion esblygol ein cymunedau. Mae ymrwymo i ailbrisio rheolaidd a gweithredu gwelliannau erbyn diwedd tymor presennol y Senedd yn rhan allweddol o'n Cytundeb Cydweithredu gyda Llywodraeth Cymru ac yn dangos ein hymroddiad i greu system drethiant ymatebol.”
Y Cynghorydd Andrew Parkhurst, Arweinydd Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol:
“Mae pob awdurdod lleol yn gytûn bod angen treth gyngor decach. Mae’r diwygiad hwn yn enghraifft wych o Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn cydweithio ar gyfer cymunedau Cymru, fel y gwelsom yn y gweithgorau a’r fforymau partneriaeth niferus a helpodd i lunio’r newid hwn.”
DIWEDD –