Yn dilyn y Datganiad Ysgrifenedig heddiw gan Weinidog yr Amgylchedd ar y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar gyfer 2021-2022, dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Llefarydd yr Amgylchedd CLlLC:
“Mae Cynghorau a phartneriaid yn wynebu heriau digynsail sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd a llifogydd mawr sy’n parhau i effeithio cymunedau ledled Cymru.
Mae Cynghorau yn barod i wynebu’r her hon ac yn gweithio’n ddiflino i warchod teuluoedd, busnesau a chymunedau. Mae’r cyhoeddiad o £19 miliwn o gyllid cyfalaf i helpu cynghorau i ddarparu cynlluniau lliniaru llifogydd yn ddatganiad o’r bwriad hwn.
Mae CLlLC yn croesawu cyhoeddiad Gweinidogol heddiw ar gyfer 2021 – 22 a’r lefel parhaus o gymorth refeniw i gynghorau i’w cynorthwyo i gyflawni eu swyddogaethau rheoli llifogydd ac erydu arfordirol. Yn wyneb risg cynyddol i gymunedau gan newid hinsawdd, bydd angen sicrwydd hir dymor dros y lefel o gymorth ariannol i gynghorau er mwyn sicrhau ymateb parhaus tuag at y perygl o lifogydd a gwytnwch o safbwynt newid hinsawdd yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae CLlLC hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad ynglŷn â chyllid pellach i CLlLC i ddarparu cymorth i gynghorau, ac i Ganolfan Monitro Arfordirol Cymru sy’n chwarae rhan allweddol o ran cefnogi cynghorau a’u partneriaid gydag amrediad eang o ddata a thystiolaeth er mwyn llywio dulliau gweithredu rheoli arfordirol yn y cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf.”
-DIWEDD-