Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd gorchuddion wyneb yn cael eu hailgyflwyno mewn ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd CLlLC dros Addysg:
“Dwi’n croesawu penderfyniad y Gweinidog heddiw i ail-gyflwyno gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd. Mae’n ymateb synhwyrol a chymesur i’r sefyllfa pryderus sy’n datblygu, ac yn cael ei wneud er lles disgyblion a’r holl staff.”