Fel rhan o ymateb Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i gefnogi’r unigolion mwyaf diamddiffyn yn ystod y pandemig, bu timoedd ymateb lleol yn mapio asedau a chymorth lleol, megis grwpiau cymunedol, busnesau ac ati, mewn ardaloedd er mwyn galluogi’r gymuned i gefnogi eu hunain. Bu’r Cyngor hefyd yn casglu data i ganfod y rhai oedd angen mwy o gefnogaeth, megis y rhai ar y rhestr gwarchod. Roedd y cynghorwyr yn gyfranwyr hanfodol o ran casglu’r data oherwydd eu gwybodaeth leol o drigolion eu wardiau. Roedd y Cyngor yn gallu paru gwirfoddolwyr gydag unigolion er mwyn darparu’r cymorth yr oeddent eu hangen. Mae hyn hefyd wedi eu cynorthwyo i ddeall profiadau bywyd trigolion, gyda rhai’n dweud eu bod yn croesawu rhyngweithio yn y dull hwn. Mae’r Cyngor yn gweithio ar ailfodelu cam nesaf y gwasanaeth sy’n gysylltiedig â darpariaeth presennol, megis cefnogi pobl a chysylltiadau cymunedol.