Mae gan Gyngor Gwynedd raglen hyfforddi sydd wedi’i ddatblygu’n dda ar gyfer staff a chynghorwyr. Mae CLlLC yn darparu hyfforddiant i gynghorwyr fel rhan o’r rhaglen hon, gan ddefnyddio dull hyfforddi/mentora hybrid i gefnogi gwaith cynghorwyr mewn cymunedau ac yn y cyngor. Yn ystod y pandemig, mae’r hyfforddiant hwn wedi cael ei gynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Dywedodd un o’r cynghorwyr sy’n cymryd rhan, “Yn gyffredinol, rwy’n credu bod yr hyfforddiant rwyf wedi’i dderbyn gan CLlLC wedi chwarae rhan hanfodol yn fy natblygiad fel aelod cabinet ac fel cynghorwr. Ers y cyfnod clo, rydym wedi parhau i gael sesiynau, ac os rhywbeth, rwy’n credu bod yr elfen ddigidol wedi gwella pethau. Yn logistaidd, mae’n llawer haws ac yn golygu llai o amser a theithio. Nid wyf yn credu bod hyn wedi newid dynameg y berthynas hyfforddi, yr unig senario bosibl rwy’n credu y byddai sesiwn hyfforddi wyneb yn wyneb yn well na sesiwn ddigidol, fydd y sesiwn/sesiynau dechreuol. Roeddwn eisoes wedi datblygu perthynas gweithio gyda fy hyfforddwr cyn newid o sesiynau wyneb yn wyneb i sesiynau digidol, ac felly efallai bod y sgwrs wyneb yn wyneb yn bwysig yn ystod y camau dechreuol. Hoffwn barhau gyda’r sesiynau digidol, hyd yn oed pan fydd “pethau yn mynd yn ôl i’r arfer”.
Ar ôl dysgu o’r hyfforddiant digidol yn ystod COVID, bydd CLlLC yn cynnig hyfforddiant ar-lein, ac os yw’n bosibl, sesiwn ddechreuol wyneb yn wyneb.