Posts in Category: Caerffili

Gwobrau Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus – 2021 – Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Rheoleiddio (CBS Caerffili) 

Mae Gwobrau’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) i gydnabod y gorau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac i rannu'r arfer gorau hwnnw gyda phawb. Yn 2021 derbyniodd APSE 320 o geisiadau aruthrol ar gyfer y Gwobrau, gyda phob un yn dangos ymrwymiad clir i nodau gwelliant parhaus a darparu rhagoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae Gwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn cydnabod y gorau o ran gwasanaethau rheng flaen llywodraeth leol ledled y Deyrnas Unedig, ac yn dilyn rownd drwyadl o feirniadu.

 

Cyrhaeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’r rhestr fer ar gyfer wobr 'Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Rheoleiddio' ar gyfer ei Wasanaeth Olrhain Cysylltiadau.

 

Cafodd y tîm Tracio, Olrhain a Diogelu'r cyngor ei greu yn ystod cyfnod eithriadol i ddarparu gwasanaeth olrhain cysylltiadau yn y gymuned, gan gyflogi pobl leol i gefnogi'r gymuned yn ystod y pandemig.

 

Bwriad y gwasanaeth oedd cydweithio i sefydlu gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau i helpu adfer cymdeithasol ac economaidd ein cymunedau, mewn modd sy'n ddiogel ac sy'n amddiffyn y GIG a'n timau gofal cymdeithasol. Dechreuodd Caerffili ei wasanaeth gyda thîm o ddeugain o staff wedi'u hadleoli gan ddefnyddio model gweithio o bell.

 

Mae'r tîm bellach yn gweithredu gwasanaeth olrhain cysylltiadau soffistigedig sy'n perfformio'n dda, sy'n hanfodol i'n hymateb i COVID-19 ac yn cynnig cefnogaeth a chyngor cynhwysfawr i'n dinasyddion i'w cynorthwyo i gydymffurfio â gofynion hunan ynysu i helpu cadw ein cymunedau'n ddiogel.

Dydd Mercher, 22 Mehefin 2022 13:52:00 Categorïau: Caerffili COVI9-19 Gwobrau Gwobrau (Gweithlu)

Gwobrau Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus – 2021 – 'Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaeth Arlwyo' – (CBS Caerffili) 

Mae Gwobrau’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) i gydnabod y gorau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac i rannu'r arfer gorau hwnnw gyda phawb. Yn 2021 derbyniodd APSE 320 o geisiadau aruthrol ar gyfer y Gwobrau, gyda phob un yn dangos ymrwymiad clir i nodau gwelliant parhaus a darparu rhagoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae Gwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn cydnabod y gorau o ran gwasanaethau rheng flaen llywodraeth leol ledled y Deyrnas Unedig, ac yn dilyn rownd drwyadl o feirniadu.

Enillodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wobr am y Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaeth Arlwyo, am yr ymateb i ddosbarthu prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig.

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai ysgolion yn cau ar unwaith oherwydd y pandemig COVID-19. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn wynebu'r her o sut i ddarparu gwasanaeth prydau ysgol am ddim i dros 6,243 o ddisgyblion.

Dangosodd tîm arlwyo'r awdurdod lleol sgiliau entrepreneuriaeth, creadigrwydd ac arweinyddiaeth gadarn gan weithredu gwasanaeth darparu prydau ysgol am ddim i'r cartref sy'n cynnwys gweithio mewn partneriaeth â chyflenwyr lleol a dros 20 maes gwasanaeth yn yr awdurdod lleol.

Dydd Mercher, 22 Mehefin 2022 13:34:00 Categorïau: Caerffili COVI9-19 Gwobrau Gwobrau (Gweithlu)

Gwobrau Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus – 2021 – Tîm Gwasanaeth Gorau: Chwaraeon, Hamdden a Gwasanaethau Diwylliannol (CBS Caerffili) 

Mae Gwobrau’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) i gydnabod y gorau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac i rannu'r arfer gorau hwnnw gyda phawb. Yn 2021 derbyniodd APSE 320 o geisiadau aruthrol ar gyfer y Gwobrau, gyda phob un yn dangos ymrwymiad clir i nodau gwelliant parhaus a darparu rhagoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae Gwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn cydnabod y gorau o ran gwasanaethau rheng flaen llywodraeth leol ledled y Deyrnas Unedig, ac yn dilyn rownd drwyadl o feirniadu.

Cyrhaeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’r rhestr fer am y Wobr Tîm Gwasanaeth Gorau: Chwaraeon, Hamdden a Gwasanaethau Diwylliannol, am agwedd anhygoel y tîm tuag at adleoli yn ystod y pandemig.

Yn ystod cyfnod o her eithriadol, mae'r Tîm Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden yng Nghaerffili nid yn unig wedi parhau i ddarparu amrywiaeth eang a gwahanol o gyfleoedd chwaraeon a hamdden egnïol, ond hefyd wedi defnyddio ei adnoddau i gefnogi ymateb y Cyngor i COVID-19.

Dydd Mercher, 22 Mehefin 2022 13:06:00 Categorïau: Caerffili COVI9-19 Gwobrau Gwobrau (Gweithlu)

FiNi – Cydweithio i ddatblygu Arweinwyr gwych (CBS Caerffili a Heddlu Gwent) 

Mae Cyngor Caerffili a Heddlu Gwent wedi ymuno i lansio rhaglen arweinyddiaeth arloesol ar y cyd gyda'r nod o ddatblygu cenhedlaeth newydd o arweinwyr beiddgar ac arloesol.

Cafodd y fenter, o’r enw ‘FiNi’, ei lansio heddiw (dydd Mercher 7 Gorffennaf) gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

Syniad Christina Harrhy (Prif Weithredwr CBSC) a Pam Kelly (Prif Gwnstabl Heddlu Gwent) yw FiNi sy'n rhannu dyhead i ddatblygu rhaglen arweinyddiaeth uchelgeisiol i sicrhau bod gan uwch reolwyr y sgiliau a'r cymwyseddau uchaf.

Bydd wyth o weithwyr o'r ddau sefydliad yn ffurfio'r garfan gyntaf erioed i gymryd rhan yn y rhaglen - pedwar o Gyngor Caerffili a phedwar o Heddlu Gwent. Bydd y rhaglen arweinyddiaeth 12 mis yn cael ei darparu gan Brifysgol De Cymru a bydd y garfan gychwynnol yn allweddol wrth helpu llunio cyfeiriad a chynnwys y cwrs ar gyfer cyfranogwyr yn y dyfodol.

Dydd Mercher, 22 Mehefin 2022 11:51:00 Categorïau: Arweinyddiaeth - Gweithlu Arweinyddiaeth - Partneriaeth Caerffili

Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru – Fferm Solar (CBS Caerffili) 

Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.  

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gwneud cais i ddatblygu fferm solar 20MW ar dir a oedd ar un adeg yn eiddo preifat ond sydd bellach yn eiddo i’r cyngor. Rhagwelir y bydd y prosiect yn costio £12 miliwn dros ei oes dybiedig o 35 mlynedd. Disgwylir y bydd y fferm yn cynhyrchu digon o ynni i bweru tua 6,000 o gartrefi bob blwyddyn.

Cefnogi Pobl Ddiamddiffyn Ynysig drwy'r Cynllun Cyfeillio (CBS Caerffili) 

Yn ystod y drydedd wythnos ym mis Mawrth fe ysgrifennodd CBS Caerffili at y 70,000 a mwy o aelwydydd yn y fwrdeistref sirol yn cynnig cefnogaeth i bobl oedd yn pryderu am gyngor Llywodraeth y DU i rai dros 70 oed, neu bobl sydd â chyflwr iechyd sy'n bodoli eisoes, i hunan ynysu os oeddent yn teimlo na fyddent yn gallu ymdopi gyda siopa dyddiol neu gasglu presgripsiynau. Fe gysylltodd 1560 o bobl hŷn a diamddiffyn â’r llinell gymorth bwrpasol yn gofyn am gefnogaeth. Ar yr un pryd galwyd ar staff i weithredu os oeddent yn gallu helpu fel gwirfoddolwyr er mwyn darparu ymateb ar unwaith. Yn y diwedd daeth 590 aelod o staff i weithredu fel Cyfeillion a chawsant eu paru gyda hyd at 10 o oedolion/teuluoedd diamddiffyn yr un. Gan fod mynediad at arian yn anodd, ac nad oedd unrhyw ganllawiau gan CGGC yn bodoli ar y pryd, sefydlwyd mynediad at gardiau credyd corfforaethol ac arian mân ar fyr rybudd i atal honiadau o gamdriniaeth ariannol a thwyll. Roedd preswylwyr yn derbyn anfoneb yn ddiweddarach am siopa a brynwyd ar eu rhan. Ar yr un pryd darparodd y Cyngor yrwyr oedd wedi derbyn gwiriad uwch y GDG i fferyllfeydd lleol i helpu gyda dosbarthu meddyginiaeth gan nad oedd y gwasanaethau gyrwyr arferol yn weithredol. Wrth i’r cyfnod clo lacio ac wrth i bobl roi’r gorau i warchod eu hunain mae nifer o staff wedi parhau i gynnal rôl cyfeillio gyda’r bobl y maent wedi bod yn eu cefnogi. Mae’r cynllun nawr yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol lleol i gefnogi’r nifer llai o bobl sy'n parhau i fod angen cefnogaeth drwy'r Tîm Adfywio Cymunedol sy'n gweithio gyda'r Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol. Mae Cydlynydd Gwirfoddolwyr a benodwyd ar y cyd yn helpu i reoli’r Cynllun Cyfeillio gyda’r bwriad o ddatblygu cynllun gwirfoddoli corfforaethol mwy ffurfiol. Mae’r Tîm Adfywio Cymunedol yn gweithio’n agos gyda grwpiau gwirfoddol COVID yn y gymuned leol yn arbennig o ran helpu pobl ynysig sydd wedi cofrestru ar y Cynllun Cyfeillio i fod â gwell cysylltiad â’u cymunedau.

Addasu atyniad i dwristiaid at ddibenion gwahanol er mwyn cefnogi'r gymuned (CBS Caerffili) 

Mae Maenordy Llancaiach Fawr yn atyniad i dwristiaid wedi ei leoli yn Nelson, Caerffili, sy'n portreadu bywyd yn 1645 drwy ddehongliad byw i tua 60,000 o ymwelwyr a phlant ysgol bob blwyddyn. Hefyd mae yna ystafelloedd cynadledda, canolfan addysg, caffi, tŷ bwyta a siop anrhegion.

Yn ystod y cyfnod clo, fe wirfoddolodd y mwyafrif o staff i gael eu hadleoli i’r cynllun cyfeillio, i gasglu presgripsiynau a siopa ar gyfer preswylwyr diamddiffyn y fwrdeistref sirol a oedd yn gwarchod eu hunain. Ymunodd eraill â Thîm y Rhaglen Tracio ac Olrhain

Mae canolfan addysg wedi ei haddasu dros dro i weithredu fel canolbwynt dosbarthu. Caiff rhoddion eu casglu gan staff a chaiff parseli eu creu i’w dosbarthu i fanciau bwyd.

Mae’r bar a’r tŷ bwyta wedi eu defnyddio ar gyfer darparu canolbwynt gofal plant a gaiff ei gynnal mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y gwasanaeth Ysgol a Cherddoriaeth, Tîm Datblygu’r Celfyddydau a’r Gwasanaeth Ysgolion Iach er mwyn lleddfu materion yn ymwneud â gofal plant yn ystod gwyliau’r haf ar gyfer Gweithwyr Golau Glas.

Mae paratoadau ar gyfer y ‘normal newydd’ wedi cynnwys darparu gweithdai arlein a darparu gwasanaeth allgymorth i ysgolion. Mae’r caffi wedi ailagor a’r gerddi ffurfiol ac ardal y patio yn cynnwys seddi i eistedd yn yr awyr agored. Mae prydau i fynd a’r cinio dydd Sul wedi mynd o nerth i nerth.  

Prosiect Estyn Allan a Dargedir (CBS Caerffili) 

Roedd Heddlu Gwent yn cael nifer o broblemau gyda phobl ifanc nad oedd yn dilyn rheolau’r cyfnod clo ac fe wnaethant gysylltu â Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i’w cynorthwyo i ymgysylltu â phobl ifanc. Cytunwyd y byddai’r heddlu a staff ieuenctid estyn allan y Cyngor yn cyflawni patrolau ar y cyd er mwyn siarad â phobl ifanc am ragofalon diogelwch COVID-19. Roedd hyn hefyd yn galluogi gwasanaethau ieuenctid a’r heddlu i wirio eu lles a darparu cymorth ychwanegol os oedd angen. Mae staff y Gwasanaeth Ieuenctid wedi bod allan gyda'r heddlu 2-3 gwaith yr wythnos, gan weithio gyda thimoedd plismona cymdogaethau ar draws y fwrdeistref.  Roedd y patrolau yn canolbwyntio ar ardaloedd lle ganfuwyd ymddygiad gwrthgymdeithasol neu lle roedd grwpiau o bobl ifanc wedi cael eu gweld. Roedd rhai anawsterau ar y dechrau, gan nad oedd rhai pobl ifanc yn awyddus i siarad gyda'r heddlu, ond goresgynnwyd hyn gan fod y gweithiwr ieuenctid gyda nhw ac yn annog y bobl ifanc i ymgysylltu. Mae lefel ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi lleihau ar draws y fwrdeistref, ac mae llai o bobl ifanc i’w gweld, sydd wedi arwain at leihau’r gefnogaeth oedd ei angen gan yr heddlu.

 “Gwaith partneriaeth gwych...cefnogi pobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn...rhaid i ni fod yn rhagweithiol...nid aros i’r broblem gael ei chodi...bydd bod yn weledol yn darparu sicrwydd ac yn annog pobl ifanc i ymgysylltu â ni...” Prif Gwnstabl Pam Kelly, Heddlu Gwent @GP_PamKelly

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30