Posts in Category: COVID-19 (Gwarchod - Partneriaeth)

Galw Gofal (CBS Conwy) 

Sefydlwyd Galw Gofal gan Dîm Lles Cymunedol Gofal Cymdeithasol ac Addysg  Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy  i ddarparu cefnogaeth yn y cartref trwy systemau ffôn i wella ansawdd bywyd ac annibyniaeth pobl, Yn ystod y pandemig ymestynnwyd gwasanaethau Galw Gofal i gynnwys y rhai yn y gymuned a oedd yn gwarchod eu hunain. Er mwyn ymateb yn gyflym i’r angen cynyddol am gefnogaeth yn ystod y pandemig, bu i Galw Gofal ddatblygu partneriaethau oedd yn bodoli gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Age Connects Canol Gogledd Cymru a Chymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy . O Fawrth i Awst 2020, gwnaed 10,789 o alwadau ffôn dyddiol gyda staff yn ymateb i amrywiaeth o ymholiadau o gymorth gyda dosbarthu bwyd a phresgripsiynau i gyfeirio at Dimau Lles Cymunedol i gael cefnogaeth i fynd ar-lein.

Dydd Gwener, 20 Awst 2021 12:13:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed Conwy COVI9-19 COVID-19 (Gwarchod - Partneriaeth)

Cefnogi Pobl Ddiamddiffyn Ynysig drwy'r Cynllun Cyfeillio (CBS Caerffili) 

Yn ystod y drydedd wythnos ym mis Mawrth fe ysgrifennodd CBS Caerffili at y 70,000 a mwy o aelwydydd yn y fwrdeistref sirol yn cynnig cefnogaeth i bobl oedd yn pryderu am gyngor Llywodraeth y DU i rai dros 70 oed, neu bobl sydd â chyflwr iechyd sy'n bodoli eisoes, i hunan ynysu os oeddent yn teimlo na fyddent yn gallu ymdopi gyda siopa dyddiol neu gasglu presgripsiynau. Fe gysylltodd 1560 o bobl hŷn a diamddiffyn â’r llinell gymorth bwrpasol yn gofyn am gefnogaeth. Ar yr un pryd galwyd ar staff i weithredu os oeddent yn gallu helpu fel gwirfoddolwyr er mwyn darparu ymateb ar unwaith. Yn y diwedd daeth 590 aelod o staff i weithredu fel Cyfeillion a chawsant eu paru gyda hyd at 10 o oedolion/teuluoedd diamddiffyn yr un. Gan fod mynediad at arian yn anodd, ac nad oedd unrhyw ganllawiau gan CGGC yn bodoli ar y pryd, sefydlwyd mynediad at gardiau credyd corfforaethol ac arian mân ar fyr rybudd i atal honiadau o gamdriniaeth ariannol a thwyll. Roedd preswylwyr yn derbyn anfoneb yn ddiweddarach am siopa a brynwyd ar eu rhan. Ar yr un pryd darparodd y Cyngor yrwyr oedd wedi derbyn gwiriad uwch y GDG i fferyllfeydd lleol i helpu gyda dosbarthu meddyginiaeth gan nad oedd y gwasanaethau gyrwyr arferol yn weithredol. Wrth i’r cyfnod clo lacio ac wrth i bobl roi’r gorau i warchod eu hunain mae nifer o staff wedi parhau i gynnal rôl cyfeillio gyda’r bobl y maent wedi bod yn eu cefnogi. Mae’r cynllun nawr yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol lleol i gefnogi’r nifer llai o bobl sy'n parhau i fod angen cefnogaeth drwy'r Tîm Adfywio Cymunedol sy'n gweithio gyda'r Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol. Mae Cydlynydd Gwirfoddolwyr a benodwyd ar y cyd yn helpu i reoli’r Cynllun Cyfeillio gyda’r bwriad o ddatblygu cynllun gwirfoddoli corfforaethol mwy ffurfiol. Mae’r Tîm Adfywio Cymunedol yn gweithio’n agos gyda grwpiau gwirfoddol COVID yn y gymuned leol yn arbennig o ran helpu pobl ynysig sydd wedi cofrestru ar y Cynllun Cyfeillio i fod â gwell cysylltiad â’u cymunedau.

Cyflenwyr lleol yn rhoi cymorth gyda phecynnau bwyd (Cyngor Sir Gar)  

Mae Cyngor Sir Gar yn gweithio gyda chyflenwyr bwyd lleol i ddarparu pecynnau bwyd hanfodol i breswylwyr yn Sir Gâr sy’n gwarchod a heb ffordd arall o dderbyn cymorth. Golyga hyn y bydd y parseli, a ddanfonir bob wythnos, yn cynnwys rhywfaint o gynnyrch lleol yn ogystal ag eitemau bwyd sylfaenol a nwyddau i’r cartref. Y cyngor sydd wedi cymryd y gwaith o gyflenwi a danfon pecynnau bwyd gan Llywodraeth Cymru ac mae’n gweithio gyda Castell Howell a chyflenwyr lleol eraill i roi’r pecynnau ynghyd. Mae staff y Cyngor a faniau ag arwyddion Sir Garedig arnynt wedi eu defnyddio i ddanfon y parseli.  Bydd pawb sy’n derbyn y pecyn yn cael yr un cyflenwadau, er mai’r nod yw amrywio’r cynnwys gymaint â phosibl bob wythnos.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Emlyn Dole: “Rydw i wrth fy modd fod y cyngor wedi gallu cymryd cyfrifoldeb dros reoli’r pecynnau bwyd i drigolion agored i niwed sy’n gwarchod yn Sir Gâr. “Mae’n golygu y gallwn weithio gyda chyflenwyr lleol a chasglu cynnyrch lleol i’r pecynnau sy’n bwysig iawn, gan ei fod yn cefnogi ein heconomi leol ni, yn ogystal â darparu bwyd ffres a lleol i’n trigolion.”

Dydd Mawrth, 11 Awst 2020 16:42:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed COVI9-19 COVID-19 (Gwarchod - Partneriaeth) Sir Gar

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30