Yn ystod y drydedd wythnos ym mis Mawrth fe ysgrifennodd CBS Caerffili at y 70,000 a mwy o aelwydydd yn y fwrdeistref sirol yn cynnig cefnogaeth i bobl oedd yn pryderu am gyngor Llywodraeth y DU i rai dros 70 oed, neu bobl sydd â chyflwr iechyd sy'n bodoli eisoes, i hunan ynysu os oeddent yn teimlo na fyddent yn gallu ymdopi gyda siopa dyddiol neu gasglu presgripsiynau. Fe gysylltodd 1560 o bobl hŷn a diamddiffyn â’r llinell gymorth bwrpasol yn gofyn am gefnogaeth. Ar yr un pryd galwyd ar staff i weithredu os oeddent yn gallu helpu fel gwirfoddolwyr er mwyn darparu ymateb ar unwaith. Yn y diwedd daeth 590 aelod o staff i weithredu fel Cyfeillion a chawsant eu paru gyda hyd at 10 o oedolion/teuluoedd diamddiffyn yr un. Gan fod mynediad at arian yn anodd, ac nad oedd unrhyw ganllawiau gan CGGC yn bodoli ar y pryd, sefydlwyd mynediad at gardiau credyd corfforaethol ac arian mân ar fyr rybudd i atal honiadau o gamdriniaeth ariannol a thwyll. Roedd preswylwyr yn derbyn anfoneb yn ddiweddarach am siopa a brynwyd ar eu rhan. Ar yr un pryd darparodd y Cyngor yrwyr oedd wedi derbyn gwiriad uwch y GDG i fferyllfeydd lleol i helpu gyda dosbarthu meddyginiaeth gan nad oedd y gwasanaethau gyrwyr arferol yn weithredol. Wrth i’r cyfnod clo lacio ac wrth i bobl roi’r gorau i warchod eu hunain mae nifer o staff wedi parhau i gynnal rôl cyfeillio gyda’r bobl y maent wedi bod yn eu cefnogi. Mae’r cynllun nawr yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol lleol i gefnogi’r nifer llai o bobl sy'n parhau i fod angen cefnogaeth drwy'r Tîm Adfywio Cymunedol sy'n gweithio gyda'r Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol. Mae Cydlynydd Gwirfoddolwyr a benodwyd ar y cyd yn helpu i reoli’r Cynllun Cyfeillio gyda’r bwriad o ddatblygu cynllun gwirfoddoli corfforaethol mwy ffurfiol. Mae’r Tîm Adfywio Cymunedol yn gweithio’n agos gyda grwpiau gwirfoddol COVID yn y gymuned leol yn arbennig o ran helpu pobl ynysig sydd wedi cofrestru ar y Cynllun Cyfeillio i fod â gwell cysylltiad â’u cymunedau.