Posts in Category: Defnydd tir a dulliau’n seiliedig ar leoedd

Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru – Defnydd tir a dulliau’n seiliedig ar leoedd (Bro Morgannwg) 

Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.  

 

Cafodd Cyngor Bro Morgannwg gyllid Partneriaethau Natur Lleol Cymru i ddatblygu Wal Fyw Werdd ar yr adeilad BSC2 yn y Bari. Bydd y prosiect yn gwella bioamrywiaeth ac yn cynnig mwy o fynediad at Isadeiledd Gwyrdd.  Disgwylir y bydd y prosiect yn echdynnu tua 41 kilo o CO2e bob blwyddyn. 

Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru – Defnydd tir a dulliau’n seiliedig ar leoedd (CBS Torfaen) 

Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.  

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ymgynghori gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i nodi cyfleoedd ar gyfer dulliau gwell i reoli tir, yn cynnwys mapio gyda System Wybodaeth Ddaearyddol i nodi cyfleoedd i ddal a storio carbon. Mae hyn wedi llywio Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Torfaen ar gyfer yr holl dir cyhoeddus yn Nhorfaen.

Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru – Defnydd tir a dulliau’n seiliedig ar leoedd (CS Powys) 

Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.  

 

Mae Cyngor Sir Powys yn defnyddio dull cynllunio lle i ganolbwyntio ar garbon, addasu i newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Bydd y dull newydd hwn yn y dref yn cael ei efelychu mewn 9 tref arall ledled Powys. 

Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru – Defnydd tir a dulliau’n seiliedig ar leoedd (Caerdydd) 

Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.  

 

Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu cyflwyno cynllun plannu coed dros y ddinas, prosiect coedwig drefol ‘Coed Caerdydd’ gwerth £1 miliwn. Bwriad y cynllun yw plannu coed ar fwy nag 800 hectar o dir dros y degawd nesaf gan ganolbwyntio ar garbon, llifogydd, rheoli dŵr a gwytnwch.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30