Posts in Category: Gwynedd

Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru – Rhwydwaith Gwres (Gwynedd) 

Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.  

 

Mae Cyngor Gwynedd wedi comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer system wresogi carbon isel a fforddiadwy yn Nhanygrisiau, yn cynnwys y dewis i ôl-osod rhwydwaith gwresogi ardal. Os bydd yn llwyddiannus, mae’n bosib y bydd y cynllun yn cael ei efelychu mewn cymunedau chwareli lleol eraill.

Hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr yng Ngwynedd (Cyngor Gwynedd) 

Mae gan Gyngor Gwynedd raglen hyfforddi sydd wedi’i ddatblygu’n dda ar gyfer staff a chynghorwyr. Mae CLlLC yn darparu hyfforddiant i gynghorwyr fel rhan o’r rhaglen hon, gan ddefnyddio dull hyfforddi/mentora hybrid i gefnogi gwaith cynghorwyr mewn cymunedau ac yn y cyngor. Yn ystod y pandemig, mae’r hyfforddiant hwn wedi cael ei gynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Dywedodd un o’r cynghorwyr sy’n cymryd rhan, “Yn gyffredinol, rwy’n credu bod yr hyfforddiant rwyf wedi’i dderbyn gan CLlLC wedi chwarae rhan hanfodol yn fy natblygiad fel aelod cabinet ac fel cynghorwr.  Ers y cyfnod clo, rydym wedi parhau i gael sesiynau, ac os rhywbeth, rwy’n credu bod yr elfen ddigidol wedi gwella pethau.  Yn logistaidd, mae’n llawer haws ac yn golygu llai o amser a theithio.  Nid wyf yn credu bod hyn wedi newid dynameg y berthynas hyfforddi, yr unig senario bosibl rwy’n credu y byddai sesiwn hyfforddi wyneb yn wyneb yn well na sesiwn ddigidol, fydd y sesiwn/sesiynau dechreuol.  Roeddwn eisoes wedi datblygu perthynas gweithio gyda fy hyfforddwr cyn newid o sesiynau wyneb yn wyneb i sesiynau digidol, ac felly efallai bod y sgwrs wyneb yn wyneb yn bwysig yn ystod y camau dechreuol.  Hoffwn barhau gyda’r sesiynau digidol, hyd yn oed pan fydd “pethau yn mynd yn ôl i’r arfer”.

Ar ôl dysgu o’r hyfforddiant digidol yn ystod COVID, bydd CLlLC yn cynnig hyfforddiant ar-lein, ac os yw’n bosibl, sesiwn ddechreuol wyneb yn wyneb.

Dydd Mercher, 5 Awst 2020 15:25:00 Categorïau: COVI9-19 COVID-19 (Cynghorwyr - Gweithlu) Gwynedd Llywodraethu

Cyngor Gwynedd  

Cyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi adleoli 23 swyddog i greu Tîm Cymorth COVID a sefydlwyd i gysylltu ag, ac ymdrin ag ymholiadau gan breswylwyr sy’n ynysu a/neu’n pryderu am eu hamgylchiadau oherwydd COVID-19; mae’r manylion cyswllt ar gael ar wefan y Cyngor. O fewn 11 diwrnod cyntaf Ebrill, cafodd tîm y Cyngor dros 1,000 o alwadau gan unigolion yn hunan-ynysu ac o berygl sylweddol sydd ar y rhestr warchod. Roedd y galwadau yn ymdrin â chyngor, cofrestru ar gyfer y pecyn bwyd mewn argyfwng ac/neu i drefnu casgliad meddyginiaeth. Mae’r cynlluniau Cyfeillio yn cefnogi preswylwyr diamddiffyn gyda siopa, casglu meddyginiaethau, paratoi a danfon bwyd, ac ati. Ynghyd â Menter Môn, mae Cyngor Gwynedd wedi creu rhestr o fusnesau bwyd ar draws Gwynedd sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau i gefnogi preswylwyr yn ystod y pandemig. Mae 600 o wirfoddolwyr wedi cofrestru i Fanc Gwirfoddoli y Cyngor Gwirfoddoli Lleol, Mantell Gwynedd.

Dydd Mercher, 17 Mehefin 2020 09:40:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed COVI9-19 COVID-19 (Gwirfoddoli - Partneriaeth) Gwynedd

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30