Posts in Category: Tor-faen

Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru – Defnydd tir a dulliau’n seiliedig ar leoedd (CBS Torfaen) 

Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.  

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ymgynghori gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i nodi cyfleoedd ar gyfer dulliau gwell i reoli tir, yn cynnwys mapio gyda System Wybodaeth Ddaearyddol i nodi cyfleoedd i ddal a storio carbon. Mae hyn wedi llywio Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Torfaen ar gyfer yr holl dir cyhoeddus yn Nhorfaen.

Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru - Adeiladau (CBS Torfaen) 

Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.  

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gweithio gyda dwy o brif gymdeithasau tai'r ardal, Cartrefi Melin a Bron Afon, i ddatgarboneiddio eu stoc o dai.

Ysgolion Hyb (CBS Torfaen) 

Ers dechrau pandemig COVID-19 a’r mesurau cadw pellter cymdeithasol, mae Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen wedi bod yn rhan o dîm sy’n cynnal hyb ysgolion uwchradd ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phobl ifanc diamddiffyn. Prif rôl y Gwasanaeth Ieuenctid oedd hwyluso a darparu gweithgareddau i’r bobl ifanc. Yn ogystal â hyn, gan weithio’n agos â Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Chynhwysiant, fe greodd y Gwasanaeth Ieuenctid hyb bychan yn un o’i ganolfannau ieuenctid ar gyfer ychydig o bobl ifanc hynod o ddiamddiffyn a oedd angen mwy o gefnogaeth. Roedd yr hyb yn cynnig cyfleoedd i’r bobl ifanc goginio, garddio a chymryd rhan mewn gweithgareddau meithrin tîm ac ati. Mae’r bobl ifanc wedi ymgysylltu’n annibynnol â gweithgareddau'r hyb er bod rhai ohonyn nhw’n cael cymorth 1 i 1 i gael mynediad at ddysgu ffurfiol. Mae @torfaenyouth wedi bod yn lle diogel y gall pobl ifanc sy’n bryderus ynghylch eu rhieni a’u perthnasau ei fwynhau a'i werthfawrogi.

Ap Cefnogaeth Gymunedol Torfaen (CBS Torfaen) 

Mae Cyngor Torfaen wedi lansio Ap Cefnogaeth Gymunedol Torfaen  ar 27 Ebrill, 2020 i helpu gyda chofrestriad cyflym a rhwydd gwirfoddolwyr sydd eisiau cynnig eu hamser, a helpu preswylwyr mwyaf diamddiffyn Torfaen i gofrestru ar gyfer cefnogaeth, yn ogystal â’u galluogi i gael y ddarpariaeth fwyaf addas iddynt. Bydd preswylwyr sy’n cofrestru i ddefnyddio’r ap yn gallu gwneud ceisiadau am: gasgliad meddyginiaeth; siopa bwyd, ac eitemau hanfodol eraill, y gwasanaeth cyfeillio, ac ati. Datblygwyd yr ap gan Syncsort, sef yn o bartneriaid technoleg y Cyngor. Bydd yr ap o gymorth i'r Hwb Cymorth Cymunedol a sefydlwyd yn ddiweddar, i weithredu’n fwy effeithiol, a bydd o gymorth arbennig pan mae anghenion preswylwyr yn cynyddu, ac wrth i sgiliau ac argaeledd gwirfoddolwyr newid dros amser.    Mae’r Cyngor, gyda chymorth partneriaid, gan gynnwys Bron Afon ac Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen , yn ogystal â grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr sy’n cydlynu ac yn darparu cefnogaeth uniongyrchol.  Mae fersiwn ar-lein o’r ap hefyd, sydd ar gael ar dudalen Covid-19 gwefan y Cyngor i’r sawl nad oes ganddynt fynediad i ddyfais symudol. Os nad oes gan breswylwyr fynediad i’r we, mae modd iddynt ffonio 01495 762200 am gymorth. Mae gan Gyngor Torfaen fwriad i ddefnyddio'r ap yn y tymor hir i gefnogi gwasanaethau gyda chydlynu Gwirfoddolwyr, ar ôl Covid19.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30