Wrth ymateb i gyhoeddi Cyllideb Llywodraeth y DU, dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:
“Mae’r Canghellor wedi darparu Cyllideb â’r nôd i “drwsio sylfeini” economi y DU ymysg cefnlen gyllidebol heriol. Wedi dros ddegawd o lymder, mae gwasanaethau lleol a redir gan gynghorau yn gwegian dan bwysau.”
“Rwy’n croesawu’n gynnes yr ymrwymiad gan lywodraeth newydd y DU i ‘fuddsoddi, buddsoddi, buddsoddi’. Gyda buddsoddiad cynaliadwy, hir-dymor, gall cynghorau helpu i wireddu uchelgeisiau llywodraethau y DU a Chymru fel eu gilydd; gyda buddsoddiad mewn gwasanaethau ataliol lleol, megis gofal cymdeithasol, gall cynghorau helpu i gadw pobl yn iach yn eu cartrefi, gan leddfu rhestrau aros mewn ysbytai a’r baich ar wasanaethau iechyd. Gyda chyllid ychwanegol i addysg ac ysgolion, gall cynghorau wella cyfleon bywyd plant a phobl ifanc a pharatoi gweithlu y dyfodol. Gydag arian ar gyfer datblygu economaidd lleol a rhanbarthol, gall cynghorau gyfrannu i sbarduno’r twf economaidd sydd wir ei angen, a chreu cymunedau llewyrchus.
“Ceir newid sylweddol o ran tôn yn y Gyllideb hon a ddylai gael ei groesawu gan bawb sy’n trysori eu gwasanaethau lleol. Dim ond gyda phartneriaeth gref rhwng cynghorau, llywodraethau Cymru a’r DU y gallwn ni weithio i wireddu twf economaidd, cyrraedd sero net, diogelu ein strydoedd, dymchwel rhwystrau i gyfleoedd, a chreu cymunedau gofalgar, iachach ar draws Cymru.
“Edrychwn ymlaen i barhau ein hymgysylltu gyda Llywodraeth Cymru i weithio tuag at sicrhau setliad sy’n cydnabod cyfraniad allweddol cynghorau i gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol.”
DIWEDD -