Cynghorau yn greiddiol i genedl noddfa Cymru

Dydd Mercher, 12 Chwefror 2025

 

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau Cymru fel cenedl noddfa fel rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wwrth-hiliol ar ei newydd wedd.  Mae holl gynghorau Cymru wedi helpu ffoaduriaid, ceiswyr lloches, phlant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain i ymgartrefu mewn cymunedau fel rhan o ddull 'Tîm Cymru'. 

Mae llywodraeth leol wedi croesawu’r cynllun peilot symud-ymlaen lloches 56 diwrnod, gyda’r nod o atal digartrefedd a helpu i gyflwyno cynllun Tocyn Croeso i leihau arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd cyflwyno deg egwyddor i arwain y gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod y rhai sy’n ceisio noddfa yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i deimlo’n gartrefol, yn ddiogel ac yn rhan o gymunedau Cymreig, yn ogystal â galluogi pobl i gyfrannu at gymdeithas.   

Fodd bynnag, mae cynghorau o dan bwysau ariannol sylweddol ac yn parhau i dynnu sylw’r Swyddfa Gartref at yr angen am sicrwydd cyllid hirdymor i barhau i ddarparu gwasanaethau a chymorth priodol i’r rhai sy’n cyrraedd Cymru. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, llefarydd WLGA dros gyfiawnder cymdeithasol:  

“Mae cynghorau Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan eu helpu i setlo, cyrchu gwasanaethau, a chyfrannu at eu cymunedau newydd. Mae awdurdodau lleol wedi bod ar flaen y gad o ran cyflawni cynlluniau allweddol, gan gynnwys Homes for Ukraine a Rhaglen Adsefydlu Afghanistan, gan sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn genedl noddfa.  

“Mae cam-wybodaeth a chamdriniaeth sy’n cael eu cyfeirio at sefydliadau sy’n cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn tanseilio’r gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud i helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau. Rydym yn sefyll mewn undod gyda chynghorau, elusennau, a chymunedau ledled Cymru wrth iddynt weithio’n ddiflino i sicrhau bod pobl sy’n ceisio noddfa yn cael eu trin yn deg, gydag urddas a pharch.” 

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30