Llywio dyfodol cynaliadwy i lywodraeth leol yng Nghymru

Dydd Gwener, 21 Chwefror 2025

Mae'r Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar y cyd â Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC), wedi sefydlu gweithgor sy’n cynnwys arweinwyr etholedig a phrif weithredwyr awdurdodau lleol Cymru, ynghyd ag arbenigwyr annibynnol, i ddatblygu gweledigaeth glir a chyfres o gynigion a all gefnogi dyfodol cynaliadwy i lywodraeth leol yng Nghymru.

Mae tystiolaeth a gasglwyd gan CPCC  yn cefnogi’r farn gyffredinol bod y model presennol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn anghynaladwy a bod gweledigaeth newydd, tymor hirach yn hanfodol os bydd awdurdodau lleol yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn y broses o ddeall ac ymateb i anghenion eu cymunedau.

Bydd y Grŵp yn cael ei gadeirio gan yr Athro Steve Martin, cyn-Gyfarwyddwr y Ganolfan, ac mae’r aelodau allanol ac annibynnol yn cynnwys Max Caller CBE, Prif Gomisiynydd Cyngor Dinas Birmingham fel aelod annibynnol. Mae Mr Caller yn brif weithredwr profiadol yn yr awdurdod lleol ac mae wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi llwyddiant sawl cyngor. Bydd y Ganolfan, fel rhan o’i arweinyddiaeth o’r grŵp, yn darparu’r dystiolaeth ddiweddaraf a pherthnasol i lywio gwaith y grŵp a sbarduno trafodaeth strategol rhwng actorion llywodraeth leol ac arbenigwyr annibynnol.

Er gwaethaf y cynnydd diweddar yn y cyllid a ddyrannwyd i lywodraeth leol, mae pwysau cyllidebol yn dilyn yr argyfwng costau byw, Covid, a’r galw cynyddol am wasanaethau fel gofal cymdeithasol yn golygu bod llawer o gynghorau’n gorfod cwtogi neu atal llawer o wasanaethau nad ydynt yn hanfodol – ac mae’r amgylchedd ariannol a gwleidyddol presennol yn golygu bod cynnydd sylweddol pellach mewn cyllid yn annhebygol. Bydd y Grŵp yn edrych yn gyfannol ar y prif faterion sy’n wynebu llywodraethau lleol, gan gynnwys ei swyddogaethau, ei strwythurau, ei hatebolrwydd, ei llywodraethu, ei chyllid a’i diwylliant, a bydd y weledigaeth a’r cynigion y mae’n eu datblygu yn mynd i’r afael â’r rhain.

Dywedodd Dan Bristow, Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: “Mae’r Ganolfan yn cefnogi llunwyr polisïau ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol i’w helpu i fynd i’r afael â heriau mawr ym maes polisi drwy roi tystiolaeth ac arbenigedd annibynnol iddynt a thrwy gynnull sgyrsiau strategol a all helpu i ganfod datrysiadau ac ymatebion effeithiol ym maes polisi. Byddwn yn dod â’r profiad a’r persbectif strategol hwn i’r grŵp, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio i ddod o hyd i weledigaeth ar y cyd ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r cymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ond allwn ni ddim anwybyddu realiti’r pwysau sy’n ein hwynebu. Mae blynyddoedd o doriadau a thanfuddsoddi wedi gadael y sector mewn sefyllfa heriol. Os ydyn ni am barhau i gyflawni dros ein cymunedau, mae’n hanfodol ein bod ni’n wynebu’r heriau hyn yn uniongyrchol ac yn gweithio tuag at ddatrysiadau cynaliadwy hirdymor. Mae’r grŵp hwn yn rhoi cyfle i ni gymryd rheolaeth dros ein dyfodol a sicrhau sector gwasanaethau cyhoeddus cryf a chadarn yng Nghymru.”

Mae’r Athro Steve Martin yn edrych ymlaen at gadeirio’r Gweithgor. Ychwanegodd: “Llywodraeth leol ydy curiad calon cymunedau ar hyd a lled Cymru. Mae pwysau cynyddol yn ariannol, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol wedi ei gwneud yn anoddach i gynghorau ddarparu gwasanaethau – ond mae hefyd wedi gwneud y gwasanaethau hynny’n fwy hanfodol i lawer o’r dinasyddion a’r grwpiau cymunedol hynny sy’n dibynnu arnynt.
“Fel cadeirydd y Grŵp, rydw i’n falch iawn o gefnogi pobl allweddol o lywodraeth leol yng Nghymru i ddod at ei gilydd gyda chydweithwyr yn y Ganolfan i geisio datblygu gweledigaeth gyffredin a chynigion ymarferol a fydd, gyda gobaith, yn helpu cynghorau i fynd i’r afael â’r heriau enfawr sy’n eu hwynebu.”

Bydd y grŵp yn cwrdd yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn gyda’r nod o gwblhau cyfres o gynigion i’w hystyried cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026. Bydd holl allbwn y Grŵp yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Ganolfan.

Aelodau’r Gweithgor*

  • Yr Athro Steve Martin, Prifysgol Caerdydd (Cadeirydd)
  • Y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd, Cyngor Sir Fynwy
  • Y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd, Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Rob Thomas, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Bro Morgannwg
  • Eifion Evans, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Sir Ceredigion
  • Emma Palmer, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Sir Powys
  • Martin Nicholls, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Abertawe
  • Max Caller CBE, Prif Gomisiynydd, Cyngor Dinas Birmingham
  • Simon Brindle, Cyfarwyddwr Gwelliant Parhaus, Llywodraeth Cymru (Arsylwr)
  • Paula Walters, Pennaeth Dros Dro Polisi a Gwasanaethau Corfforaethol, CLlLC (Arsylwr)

Ysgrifenyddiaeth a swyddogaeth gefnogi:

  • Yr Athro Dan Bristow, Cyfarwyddwr, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
  • Dr Helen Tilley, Uwch Gymrawd Ymchwil, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
  • Dr Jack Price, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
  • Ioana Filipas, Prentis Ymchwilydd, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

*Enw llawn y gweithgor yw’r Gweithgor Annibynnol ar Lywodraeth Leol Gynaliadwy ar gyfer y Dyfodol

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30