Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi lansio Cerdyn Gofalwr i ofalwyr di-dâl sy’n gofalu am aelodau o’r teulu neu ffrindiau, na fyddai’n gallu ymdopi ar eu pennau eu hunain heb gymorth na’r gofal y mae gofalwyr di-dâl yn eu darparu.
Mae’r Cerdyn Gofalwr yn gerdyn adnabod a llun, a gyhoeddir gan Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion, i ofalwyr sy’n 18 oed a hyn ac sydd wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr y cyngor.
Mae’r cerdyn wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i bandemig Covid-19. Yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, cysylltodd nifer o ofalwyr a’r cyngor i ofyn am rywbeth y gallent ei ddefnyddio i brofi eu bod yn gofalu am unigolyn pe bai rhywun yn eu herio pan fyddent yn casglu neu’n cludo nwyddau hanfodol i’r unigolyn hwnnw.
Bydd gan ddeiliaid y cardiau fynediad at gyfleoedd siopa wedi’u blaenoriaethu gyda masnachwyr sy’n rhan o’r cynllun. Mae rhestr o’r masnachwyr hynny, ynghyd a buddion eraill y cynllun, ar gael ar dudalen Cerdyn Gofalwyr y cyngor.