Y Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru yw rhaglen ddatblygu flaenllaw CLlLC ar gyfer cynghorwyr mewn swyddi arwain.
Trosolwg
Mae Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru CLlLC yn fan lle gall arweinwyr, a’r rhai sydd mewn swyddi arwain, archwilio’r syniadau diweddaraf mewn arweinyddiaeth wleidyddol, a rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ymateb i’r heriau hyn.
Un o gryfderau’r rhaglen yw ei bod yn rhoi cyfle i gynghorwyr o bob plaid wleidyddol gwrdd â’u cyfatebion o gynghorau a phleidiau eraill a thrafod materion sy’n gyffredin iddyn nhw.
Mae’r cyfuniad hwnnw o ddysgu gan arbenigwyr ym maes arwain a thrwy profiad cyfoeswyr yn rhoi i’r cynghorwyr hyder yn eu galluoedd a rhwydwaith newydd o bobl y gallan nhw ymddiried ynddynt.
AMSERLEN
Mae'r rhaglenni'n drawsbleidiol ac wedi'u cyfyngu i 25 o gynghorwyr mewn unrhyw un sesiwn er mwyn sicrhau'r cyfranogiad mwyaf posibl.
Rhaglen 1 - Gogledd Cymru [Penwythnosau]
- Modiwl 1: 26 a 27 Hydref 2024 (preswyl)
- Modiwl 2: 16 a 18 Tachwedd 2024 (rhithwir, ar ddiwrnodau nad ydynt yn ddilynol)
- Modiwl 3: 7 a 8 Rhagfyr 2024 (preswyl)
Rhaglen 2 - De Cymru [Penwythnosau]
- Modiwl 1: 18 a 19 Ionawr 2025 (preswyl)
- Modiwl 2: 22 a 24 Chwefror 2025 (rhithwir, ar ddiwrnodau nad ydynt yn ddilynol)
- Modiwl 3: 22 a 23 Mawrth 2025 (preswyl)
Manteision i chi
Mae'r rhaglen yn darparu amgylchedd lle gall cynghorwyr o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol gwrdd â chynghorwyr profiadol o gynghorau a phleidiau eraill i drafod materion cyffredin. Mae’r cyfuniad o ddysgu gan arbenigwyr ym maes arweinyddiaeth ac o brofiad eu cyfoedion yn rhoi hyder i gyfranogwyr y rhaglen yn eu galluoedd a rhwydwaith newydd o gyd-weithwyr y gellir ymddiried ynddynt.
Mae’r rhaglen yn anffurfiol ac yn rhyngweithiol iawn, sy’n cynnig y cyfle i gael amgylchedd dysgu deniadol sy’n ysgogi’r meddwl. Mae pob rhaglen wedi’i chyfyngu i 25 o gynghorwyr gan sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan.
Yr hyn a ddywedodd cyfranogwyr blaenorol am y rhaglen:
“Dyma’r hyfforddiant gorau i aelodau rwyf wedi ei gael.”
“Byddwn yn argymell y cwrs hwn i bob aelod. Mae’n rhagorol.”
“Roedd y sesiwn gan arweinydd y cyngor yn amhrisiadwy, yn ymarferol ac yn ysbrydoledig!”
“Rhagorol, ysgogol ac ysbrydoledig.”
“Fe wnes i fwynhau rhwydweithio gyda’r holl arweinwyr ar y cwrs. Rwy’n edrych ymlaen at ehangu ar y perthnasau newydd hyn a ffurfiwyd.”
“Deuddydd ardderchog. Fe wnes i ddysgu llawer gan y cyflwynwyr a’r cynrychiolwyr eraill. Digon o fwyd i’r meddwl.”
“Dysgwyd llawer a helpodd yn aruthrol nid yn unig yn y cyngor ond mewn sefyllfaoedd bywyd cyffredinol eraill hefyd, hoffwn pe bawn wedi cael y cyfle hwn flynyddoedd yn ôl, rwyf hefyd yn hyrwyddo holl fanteision unrhyw addysg a hyfforddiant tebyg.”
Cynulleidfa darged
Mae’r rhaglen yma ar agor i uwch gynghorwyr yng Nghymru, gan gynnwys arweinwyr, arweinwyr grwpiau gwleidyddol, aelodau gweithredol, llefarwyr y gwrthbleidiau a chadeiryddion craffu. Mae llawer o gynghorau o’r farn ei fod yn gyfle i hyrwyddo cynllunio ar gyfer olyniaeth a datblygu aelodau arweiniol y dyfodol.
Mae rhaglenni’n drawsbleidiol ac wedi’u cyfyngu i 25 aelod mewn unrhyw un sesiwn i sicrhau’r cyfranogiad mwyaf posibl.
Rydym yn cynnig dau le gwarantedig i bob cyngor ar draws y ddwy raglen. Yn dibynnu ar lefel y galw, efallai y byddwn yn gallu cynnig lleoedd ychwanegol; fodd bynnag, ni all mwy na phedwar aelod o bob cyngor gymryd rhan.
Sut mae’n gweithio
Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru yn rhaglen ddatblygu fodiwlaidd sy’n cynnwys tri modiwl deuddydd dros gyfnod o dri mis.
Mae Modiwl 1 (preswyl) yn canolbwyntio ar arwain drwy berthnasoedd. Mae’r modiwl hwn yn galluogi cyfranogwyr i nodi eu harddulliau, eu cryfderau a’u gwendidau arwain personol ac yn archwilio sut y gall cynghorwyr ddatblygu, cynnal a defnyddio perthnasoedd (mewnol ac allanol) i ddarparu arweinyddiaeth effeithiol ar lefel wleidyddol, sefydliadol a chymunedol ehangach.
Mae Modiwl 2 (rhithwir, ar ddiwrnodau nad ydynt yn ddilynol) yn edrych ar arwain arloesedd a newid. Bydd y modiwl hwn yn datblygu gallu cynghorwyr i arwain a rheoli newidiadau cymhleth i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ac i sicrhau gwell canlyniadau i’w dinasyddion a’u cymunedau.
Mae Modiwl 3 (preswyl) yn archwilio arwain cymunedau a lleoedd. Canolbwyntir ar helpu cynghorwyr i gyfathrebu â’u cymunedau ac o fewn partneriaethau a rhoi arweiniad iddynt er mwyn sicrhau twf a ffyniant.
Rhwng modiwlau, bydd cynghorwyr yn cael eu hannog i barhau i sgwrsio, rhannu arfer datblygu a pharatoi ar gyfer y modiwl nesaf. Yn dilyn y rhaglen, bydd cyfranogwyr yn cael cyfleoedd i barhau â thrafodaethau yn y setiau dysgu gweithredol a gafodd eu sefydlu ar y rhaglen.
Cost
Darperir y Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru am ddim i gynghorau ac fe’i hariennir gan Raglen Wella CLlLC, rhaglen a ariennir gan grant Llywodraeth Cymru. Bydd Academi Wales yn darparu llety i gynghorwyr ar y noson rhwng deuddydd modiwlau 1 a 3. Bydd hyn yn cynnwys ystafell sengl gyda chinio, gwely a brecwast ac ni fydd yn cynnwys cost unrhyw alcohol.
Bydd angen i gynghorau ariannu costau teithio ac unrhyw lety ac arlwyo ychwanegol sydd eu hangen cyn neu ar ôl modiwlau 1 a 3. Rhaid i gynghorwyr sy’n dymuno gwneud y trefniadau ychwanegol hyn wneud hynny drwy eu Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, a fydd yn cysylltu â’r lleoliad yn uniongyrchol. Rhaid adennill unrhyw gostau cysylltiedig drwy broses deithio a chynhaliaeth arferol eich cyngor.
Sut i wneud cais
Mae’n bwysig eich bod yn darllen y cwestiynau cyffredin ar dudalen we’r Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru cyn i chi archebu eich lle.
Enwebiad
Bydd gan eich cyngor weithdrefn ar gyfer blaenoriaethu ac enwebu cynghorwyr i fynychu’r rhaglen. Rydym yn cynnig dau le gwarantedig i bob cyngor ar draws y ddwy raglen. Yn dibynnu ar lefel y galw, efallai y byddwn yn gallu cynnig lle wrth gefn (cyntaf ac ail). Fodd bynnag, ni all mwy na phedwar cynghorydd o’ch cyngor gymryd rhan.
- Trafodwch eich enwebiad gyda’ch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd.
- Pan fydd y Cyngor wedi penderfynu pwy fydd yn mynychu, dylai Penaethiaid
Gwasanaethau Democrataidd anfon e-bost at Gwelliant@wlga.gov.uk
gan roi enwau’r 2 gynghorydd enwebedig, ac enwau’r cyntaf a’r ail wrth gefn:
- enw
- cyfeiriad e-bost
- swydd / rôl o fewn y cyngor
- rhaglen a ffefrir (Gogledd / De / Y Naill neu’r Llall). Er y byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau’r lleoliad a ffefrir, ni allwn ei warantu.
- math o enwebiad (lle gwarantedig / wrth gefn cyntaf / ail wrth gefn)
- Bydd Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd yn derbyn cadarnhad o bwy sydd wedi cael cynnig lle. Yna, rhaid iddyn nhw roi gwybod i’r cynghorwyr perthnasol.
- Gall cynghorwyr sydd â lle wedi’i gadarnhau archebu eu hunain ar y rhaglen drwy wefan CLlLC.
Archebu
Unwaith y byddwch wedi derbyn cadarnhad o'ch lle ar y rhaglen, llenwch y ffurflen gofrestru isod i lenwi eich archeb.
Pan rydych yn archebu lle, byddwch yn rhoi gwybodaeth amdanoch eich hun a’ch gofynion ar y cwrs i’r Tîm Gwella yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Dim ond gyda thiwtoriaid y cwrs a’r gwesty lle byddwch yn aros ar gyfer rhan breswyl y cwrs y byddwn yn rhannu’r data hwn. Fe wnawn bopeth o fewn ein gallu i ddiogelu’r data hwn, drwy ofyn am y wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddarparu’r cwrs yn unig, drwy gadw a throsglwyddo’r wybodaeth hon mor ddiogel â phosibl a thrwy ddinistrio’r wybodaeth pan nad oes ei hangen mwyach.
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â’r hyn rydym yn ei wneud gyda’r data rydych yn ei roi i ni.
Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom. Darganfyddwch fwy yma.
Mae rhagor o wybodaeth gan:
Gwelliant@wlga.gov.uk