Mae'r Hyb Meincnodi Ariannol Gwasanaethau Gwastraff wedi cael eu datblygu ar y cyd ag Data Cymru ac mae’n darparu cronfa fanwl o ddata ariannol yn ymwneud â gwasanaethau gwastraff o 22 awdurdod lleol Cymru. Mae’r data yn cynnwys:
- Gwastraff Bwyd
- Ailgylchu Sych
- Gwastraff Gweddilliol
- Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi
- Gwastraff Masnach
Crëwyd yr Hyb yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd gan Ricardo AEA i waith meincnodi Cymru. Ei nod yw gwella lledaenu data'r gwaith meincnodi. Trwy gydgrynhoi’r data mewn un lle, mae’r Hyb yn rhoi cyfle i swyddogion mewn awdurdodau lleol gwestiynu a chael mynediad i’r data yn ôl eu dymuniad.
Er mwyn defnyddio’r Hyb, bydd angen creu cyfrif ar-lein wedi ei ddiogelu gan gyfrinair yn gyntaf - agor y ddolen yma i gofrestru. Wrth gofrestru, nodwch mai data gwastraff y mae gennych ddiddordeb ynddo pan ofynnir y cwestiwn “Pam mae angen i chi gael mynediad i’r Hyb Meincnodi?”
Mae rhagor o gwybodaeth gan: Barry Williams