Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r Tîm yn darparu cymorth ac arweiniad i helpu i wella bywydau pobl awtistig, eu teuluoedd a’u gofalwyr ar draws Cymru.
Gellir crynhoi gwaith y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol o dan bum pennawd:
- Mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth
- Adnoddau
- Hyfforddiant
- Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig
- Hwyluso rhwydweithiau, gweithio mewn partneriaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru
Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, arweinwyr Awtistiaeth lleol o fewn awdurdodau lleol a byrddau iechyd, budd-ddeiliaid allweddol a grwpiau ymgynghorol.
Mae'r tîm ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Frances Rees, Swyddog Datblygu Cenedlaethol dros Awtistiaeth (De Cymru)
- Bethan Gilson, Swyddog Cyfathrebu, Ymchwil a Gwella Awtistiaeth Cenedlaethol
- Ieuan Rees, Cymhorthydd Gweinyddol y Prosiect
- Linda Pilgrim, Swyddog Cymorth Gweinyddol
- Sioned Thomas, Swyddog Datblygu Cenedlaethol dros Awtistiaeth (Gogledd Cymru a Chanolbarth Cymru)
- Wendy Thomas, Arweinydd Proffesiynol Cenedlaethol dros Awtistiaeth
- Kirsty Jones, Swyddog Datblygu Cenedlaethol dros Awtistiaeth
Nod Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo, diogelu a gwella iechyd a lles pawb yng Nghymru.
AwtistiaethCymru.org yw'r wefan genedlaethol ar gyfer Anhwylderau ar y sbectrwm Awtistig (ASA) sydd wedi'i datblygu ac sy'n cael ei chynnal gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol gyda'n partneriaid. Yma, fe gewch chi wybodaeth am awtistiaeth, manylion am y gwasanaeth, adnoddau hyfforddi a'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno Cynllun Gweithredu strategol Anhwylderau ar y sbectrwm Awtistig ar gyfer Cymru.
Mae ystod o adnoddau am ddim, hwylus ar gael i’w rhannu pobl awtistig, eu teulu/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant ag oedolion awtistig.
Mae’r adnoddau wedi eu targedu i ddatblygu sgiliau ymarferwyr yn ogystal â rhieni a gofalwyr. Mae'r rhain yn cynnwys cynlluniau ardystio Ymwybyddiaeth Awtistiaeth amrywiol, llyfrau canllaw yn dilyn diagnosis, ffilmiau ac adnoddau.
Mae’r adnoddau a’r wefan wedi cael eu datblygu ar y cyd gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys pobl awtistig, rhieni a gofalwyr, Arweinwyr Awtistiaeth awdurdodau lleol a phartneriaid o’r maes iechyd, addysg, a’r trydydd sector.
Mae rhagor o fanylion ar: AwtistiaethCymru.org