Mae Hwb Cymunedol Sir Benfro yn siop un stop i unrhyw gymorth sydd ei angen yn ystod y pandemig presennol, o help gyda siopa i alwad ffôn cyfeillgar. Mae’n bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Benfro, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llesiant Delta. Mae preswylwyr a fyddai’n hoffi gwirfoddoli yn cael eu cyfeirio at cyfeirlyfr rhyngweithiol ar y we o sefydliadau cymorth cymunedol sydd wedi cofrestru gyda PAVS, neu maen nhw’n gallu gwirfoddoli yn uniongyrchol trwy Gwirfoddoli Cymru. Mae 94 Grwpiau Cymorth Cymunedol wedi cofrestru gyda PAVS, a dros 600 o wirfoddolwyr wedi cofrestru gyda Gwirfoddoli Cymru.