Sefyllfa gyllidol gofal cymdeithasol yn “anghynaliadwy”, meddai CLlLC

Dydd Sul, 10 Tachwedd 2024

Mae cynghorau yn galw am fuddsoddiad ar frys yng Nghyllideb Llywodraeth Cymru i helpu i gwrdd â phwyseddau enfawr mewn gofal cymdeithasol.

Mewn arolwg gan Gymdeithas Lywodraeth Leol Cymru o gyllidebau cynghorau, nodwyd £106m o bwyseddau mewn gofal cymdeithasol ar gyfer eleni (2024-25). Disgwylir pwysedd ychwanegol o £223m y flwyddyn nesaf, yn cynrychioli 40% o’r holl bwyseddau ar gyfer llywodraeth leol (£559m) dim ond i sefyll yn yr unman.

Mae CLlLC wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn amlinellu’r rhagolwg difrifol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol.

Mae cynghorau yn rhybuddio y bydd yn gynyddol anoddach i gwrdd ag anghenion gofal a chefnogaeth heb ragor o gymorth, gan effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau gofal iechyd a’r GIG gyda thrigolion yn aros yn hirach am ofal yn y gymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae cynghorau ledled Cymru yn cefnogi blaenoriaeth y Prif Weinidog i wella mynediad at ofal cymdeithasol ac i greu’r Gymru iachach yr ydym ni i gyd am ei gweld. Ond allwn ni ddim gorbwysleisio graddfa’r her ariannol sy’n wynebu gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol. Yn syml, mae’r sefyllfa yn anghynaliadwy.”

“Erbyn hyn, mae mwy a mwy o gynghorau yn gorfod ffocysu gwariant yn mynd i’r afael â mwy o alw ar wasanaethau a phwyseddau costau cynyddol mewn gwasanaethau rheng flaen allweddol, gan adael llai a llai o adnoddau ar gael ar gyfer cefnogaeth ataliol. Mae atal a chefnogaeth ymyrraeth gynnar yn hollbwysig i helpu pobl i gynnal bywydau annibynnol, iach, yn gwella cyfleon bywyd, atal digartrefedd, ac i atal unigolion a theuluoedd rhag canfod eu hunain mewn argyfwng.”

“Rhaid i fuddsoddi cynaliadwy hefyd gael ei weld yn gynhwysyn allweddol i’r uchelgais o adeiladu GIG sy’n addas i’r dyfodol, ble mae iechyd yn fwy na dim ond gofal iechyd ac ysbytai. Mae gan gwasanaethau fel tai, diwylliant, ieuenctid a datblygu economaidd ran enfawr i’w chwarae yn dylanwadu ar yr amodau sy’n cadw pobl yn iach yn eu cymunedau. Daw buddsoddiad mewn gwasanaethau a ddarperir gan gynghorau â niferoedd o fuddion, gan gynnwys i unigolion ac o ran arbedion hir-dymor i’r pwrs cyhoeddus.”

“Y gwirionedd yw, heb fuddsoddiad pellach, bydd cynghorau yn wynebu dewisiaday anodd o ran sut orau i gydbwyso cyllidebau tra’n canolbwyntio ar gynnal gwasanaethau. Bydd yn rhaid i unrhyw anghenion statudol neu ddisgwyliadau o gynghorau fod wedi’i cyllido yn llawn – mae’r gobaith o wneud mwy gyda llai o arian wedi hen basio. Heb fwy o gyllid i ofal cymdeithasol, bydd y pwyseddau ariannol presennol yn tyfu ac yn anffodus, yn effeithio’n ddifrifol ar allu cynghorau i ddarparu cefnogaeth amserol, o ansawdd uchel, i’r rhai sydd fwyaf ei angen.”

 

DIWEDD –

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30