Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru

Yn dilyn blwyddyn gyfan o ddarparu gweithgareddau ar-lein i’n hatgyfeiriadau presennol, rydym yn falch o’ch hysbysu y bydd y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn ail-agor i atgyfeiriadau newydd.

 

Bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu i weithwyr iechyd proffesiynol eich ardal leol gan gydlynydd Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yr awdurdod lleol. Bydd y manylion hyn yn rhoi gwybodaeth ynghylch pryd fydd eu hardal yn barod i dderbyn atgyfeiriadau newydd a beth fydd eu cynnig fel rhan o ddarpariaeth gyfunol o weithgareddau ar-lein, dan do ac yn yr awyr agored.

 

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gall y dull hwn ei achosi, ond rydym yn ailddechrau gyda’r camau hyn i sicrhau bod y mesurau cadw pellter cymdeithasol priodol ar waith. Mae hyn yn ein galluogi i ddiogelu iechyd a lles, chi, cyfranogwyr Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, yn ogystal â’r staff sy’n darparu’r rhaglen. 


Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ners.wales@wales.nhs.uk


 

Braslun

Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn gynllun a ariannir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir yn ganolog gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru drwy weithio mewn partneriaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ers Gorffennaf 2007.

 

Gan fod Rheolwr y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) wedi ymddeol, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi manteisio ar y cyfle i reoli’r Cynllun yn fewnol o Ebrill 1, 2022 ymlaen. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau na fydd hyn yn effeithio ar sut y cyflwynir y Cynllun, a weithredir dros bob un o ardaloedd y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru.

 

Nod y Cynllun yw safoni cyfleoedd atgyfeirio i ymarfer ar draws pob Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol. Mae’r Cynllun yn ymyrraeth iechyd ar sail tystiolaeth sy’n cynnwys gweithgarwch corfforol a newid ymddygiad, mae’n cefnogi cleientiaid i wneud a chynnal dewisiadau ffordd o fyw iachach fydd yn gwella eu iechyd a’u lles.

 

Nod y Cynllun yw lleihau’r anghydraddoldebau mewn salwch drwy ddarparu mynediad i weithgarwch corfforol wedi’i deilwra a’i oruchwylio. Y boblogaeth darged yw 16+ oed nad ydynt yn arfer bod yn gorfforol egnïol ac maent mewn perygl o neu yn profi cyflwr iechyd cronig tymor hir. Mae’r Cynllun wedi’i ddylunio i roi cyfleoedd i ymarfer sy’n hwyl, yn cynnig boddhad y gellir ei gynnwys mewn bywyd bob dydd.

Cwestiynau Cyffredin

Sut mae manteisio ar y gwasanaeth?

Bydd rhaid cael eich atgyfeirio gan arbenigwr iechyd (meddyg teulu, nyrs meddygfa neu ffisiotherapydd sy’n ymwneud â’r clefyd dan sylw, fel arfer) a fydd yn cael cyrchu gwefan y cynllun. Gweler taflen / poster i’r cleifion isod am rhagor o wybodaeth:

 

  • Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol - Taflen - Agorwch y ddolen yma
  • Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol - Poster - Agorwch y ddolen yma

 

  • Gwybodaeth ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol - Agorwch y ddolen yma

 

Oes hawl gyda fi i gymryd rhan yn y cynllun?

Mae’r cynllun ar gyfer y rhai dros 16 oed sy’n dioddef â chlefyd parhaol neu a allai ddioddef â chlefyd o’r fath. Mae meini prawf penodol a bydd rhaid i’ch arbenigwr iechyd ofalu eich bod yn cyd-fynd â nhw.

 
Faint fydd y gost?

Mae’r pris wedi codi yn ddiweddar i’n helpu i gynnal y gwasanaeth. £2 y sesiwn yw’r pris ar hyn o bryd. Cytunir ar y pris ym mhob bro bob blwyddyn.

 

Am faint o amser?

Byddwch chi’n cymryd rhan yn y cynllun rhwng 4 a 32 wythnos yn ôl y rheswm dros eich atgyfeirio.  Bydd pob sesiwn tua un awr a bydd y gweithgareddau’n amrywio boed ymarfer yn y gampfa neu yn yr awyr agored. Mae disgwyl ichi fynychu’r sesiynau a dod i’r cyfweliadau dilynol ar ôl 16 a 52 wythnos. Rydyn ni’n cynnig cyrsiau yn ôl faint o staff cymwysedig sydd ar gael.  I gyflwyno unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r cydlynydd lleol.

 

Beth yw manteision gweithgareddau corfforol?

Manteision i'r corff:

  • Bydd y galon a’r ysgyfaint yn gryfach ac yn fwy effeithlon
  • Bydd y cyhyrau’n gryfach
  • Bydd y cymalau’n gryfach
  • Mae modd lleddfu clefyd yr esgyrn brau
  • Gallech chi golli braster a phwysau diangen
  • Efallai y byddwch chi’n gallu ymlacio a chysgu’n haws
  • Gweithredu’n well yn y byd
  • Teimlo’n fwy effro ac egnïol
  • Sefyll ac eistedd yn dda
  • Helpu i gadw pwysedd eich gwaed ar lefel ddiogel
  • Helpu i osgoi clefyd y siwgr
  • Helpu i osgoi ceulo yn y gwaed
  • Helpu i barhau’n annibynnol yn hytrach na bod yn ddibynnol

 

Maneision ''r meddwl: (Dyma sylwadau rhai pobl)

  • “Rwy’n llai pryderus bellach”
  • “Mae rhagor o hyder a hunan-barch gyda fi”
  • “Mae gweithgareddau corfforol wedi fy helpu i roi’r gorau i ysmygu”
  • “Fe ges i dipyn o amser rhydd trwy’r sesiynau ymarfer”
  • “Mae fy ngwraig yn dweud fy mod yn llawer mwy hapusach”
  • “Rwyf i wedi ysgwyddo rhagor o gyfrifoldeb am fy iechyd”

 

Manteision cymdeithasol: (Dyma sylwadau rhai pobl)

  • “Fe ges i gyfle i gwrdd â phobl gyda’r un pryderon â fi”
  • “Rheswm da am adael y tŷ ac ymddiddori mewn rhywbeth newydd”
  • “Cyfle i hel ffrindiau a mwynhau sgwrsio gyda nhw”
  • “Rwy’n teimlo’n fwy heini a galla’ i chwarae’n hirach gyda’r wyrion bellach”

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar y cynllun, cysylltwch â ners.wales@wales.nhs.uk

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30