Yn dilyn yr ymosodiad terfysgol erchyll ym Manceinion, dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:
"Rydym wedi ein siglo a’n tristáu’n fawr gan yr ymosodiad erchyll a ddigwyddodd yr wythnos hon ym Manceinion. Mae meddyliau teulu llywodraeth leol Cymru gyda'r dioddefwyr, eu teuluoedd, a'r gymuned Iddewig gyfan ar yr adeg hon o alar ac ofn gwirioneddol.
"Mae cynghorau yng Nghymru yn unedig wrth gondemnio'r weithred hon o derfysgaeth. Rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad pendant i hyrwyddo parch, cynhwysiant, a chydlyniant cymunedol.
"Nid oes lle i gasineb yn ein cymunedau. Rhaid i ni gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod pob person – waeth beth fo'u ffydd, cefndir neu hunaniaeth – yn teimlo'n ddiogel, yn cael ei barchu a'i werthfawrogi.”