Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn dathlu llwyddiant arbennig myfyrwyr ledled Cymru wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau ddydd Iau, Awst 22. Eleni, bydd dros 315,000 o fyfyrwyr yn derbyn eu canlyniadau TGAU a Lefel 1 a 2 cymhwyster Galwedigaethol a Thechnegol, sy’n adlewyrchu eu gwaith caled a'u hymroddiad.
Mae canlyniadau Cymru yn dangos bod 96.6% o fyfyrwyr wedi cyflawni graddau A*-G a 62.2% wedi cyflawni graddau A*-C. Y pynciau mwyaf poblogaidd eleni yw Gwyddorau, Mathemateg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, a Chymraeg ail iaith.
Dywedodd y Cynghorydd Deb Davies, llefarydd CLlLC dros Addysg:
“Ar ran awdurdodau lleol yng Nghymru, rwyf am estyn ein llongyfarchiadau gwresog i’r holl fyfyrwyr ar eu canlyniadau TGAU. Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu’r dyfalbarhad a’r gwaith caled y mae pob myfyriwr wedi’i ddangos drwy gydol eu hastudiaethau. Wrth iddynt symud ymlaen i gam nesaf eu haddysg neu eu gyrfa, dymunwn y gorau iddynt.
“Mae ymdrechion athrawon a phawb sy’n gweithio ym myd addysg wedi bod yn hollbwysig wrth helpu myfyrwyr i gyflawni eu nodau. Mae eu hymroddiad a'u cefnogaeth wedi bod yn hanfodol wrth greu amgylchedd addysgol meithringar ac ysgogol. Rydym yn hynod werthfawrogol o'u hymrwymiad parhaus i lwyddiant myfyrwyr.
“Os ydych chi’n ystyried eich camau nesaf ac angen arweiniad, cysylltwch â Gyrfa Cymru, eich ysgol, neu goleg am gymorth. Mae yna nifer o lwybrau i’w harchwilio, ac mae cymorth ar gael i’ch helpu i lywio’r eiliad arwyddocaol hon yn eich bywyd.”