CLlLC yn galw am gynllunio a chyllid gofalus wrth ddiwygio gofal cymdeithasol

Dydd Gwener, 11 Hydref 2024

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn parhau i fod yn ymrwymedig i uchelgais Llywodraeth Cymru i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal. Mae llywodraeth leol wedi cefnogi'r weledigaeth hon ers tro ac mae'n gweithio i ehangu'r ddarpariaeth gofal mewnol i wella canlyniadau i bobl ifanc bregus ledled Cymru. Fodd bynnag, mae heriau sylweddol yn parhau, ac mae angen cynllunio gofalus er mwyn osgoi ansefydlogi'r system bresennol a bywydau'r plant a'r bobl ifanc sydd wrth wraidd iddi.

 

Mae'r adroddiad heddiw yn tanlinellu y bydd polisi 'dileu elw' Llywodraeth Cymru yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol, yn enwedig yn y tymor byr i'r tymor canolig, gan fod y cyfrifoldeb am ddarparu gofal digonol a chynaliadwy i blant sy'n derbyn gofal symud i awdurdodau lleol, i raddau nad yw'n hysbys ar hyn o bryd. Mae hyn ar adeg pan mae'r adnoddau sydd ar gael i awdurdodau lleol eisoes dan bwysau enfawr.

 

Ar hyn o bryd, mae dros 80% o blant mewn gofal preswyl a 35% mewn gofal maeth yng Nghymru yn cael eu lleoli gyda darparwyr preifat. Pe na bai'r darparwyr hyn yn trosglwyddo i'r model dielw, byddai angen i awdurdodau lleol gynyddu eu darpariaeth fewnol 324%. Daw'r newid hwn ar adeg pan mae eisoes 7,210 o blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, ac mae'r galw am wasanaethau yn codi ochr yn ochr â chymhlethdod cynyddol o achosion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

 

“Mae llywodraeth leol yn cefnogi'r nod o gael gwared ar elw o ofal plant, ond mae angen i ni sicrhau bod y cyfnod pontio yn cael ei drin yn ofalus. Bydd ehangu gwasanaethau mewnol yn cymryd symiau sylweddol o gyllid, ac rydym yn croesawu argymhelliad y Pwyllgor bod angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gefnogi hyn am o leiaf y pum mlynedd nesaf. Heb lefelau priodol o gyllid, mae risg wirioneddol o amharu ar wasanaethau a lleoliadau presennol.

 

“Mae'r llinell amser ar gyfer gwneud y newid hwn yn bryder mawr hefyd. Mae cynghorau eisoes wedi'u hymestyn, a gofynnwn i Lywodraeth Cymru ystyried pryderon rhanddeiliaid ynghylch cyflymder y trawsnewid ynghyd â'r angen i ystyried unrhyw fodelau busnes pellach a allai fod ar gael a fyddai'n hyrwyddo egwyddorion menter gymdeithasol tra'n dal i fod yn ddielw. Mae'n rhaid i'r prif ffocws fod yn sicrhau nad oes unrhyw leoliad plentyn yn cael ei ansefydlogi wrth i'r polisi hwn gael ei roi ar waith.”

 

Mae CLlLC yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a darparwyr gofal, i ddatblygu canllawiau manwl a digon o arian i reoli'r trawsnewid cymhleth hwn. Credwn, gyda'r gefnogaeth gywir, y gall Cymru arwain y ffordd wrth ddarparu gofal sy'n blaenoriaethu anghenion plant dros ennill ariannol.

 

Mae llywodraeth leol yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i'r diwygiad hanfodol hwn ond mae'n galw am ddull pwyllog, â chefnogaeth dda i sicrhau bod plant bregus yn derbyn y gofal sefydlog, meithrin y maent yn ei haeddu.

 

DIWEDD –

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30