CLlLC yn talu teyrnged i “ffrind llywodraeth leol”, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Dydd Gwener, 07 Chwefror 2025

 

Mae Llywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru heddiw wedi talu teyrnged i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, un o wleidyddion amlycaf Cymru dros yr hanner can mlynedd diwethaf, sydd wedi marw yn 78 mlwydd oed.

 

Y Cynghorydd Lis Burnett, Llywydd CLlLC:

“Ni ellir gorbwysleisio dylanwad yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ar wleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Roedd yn ffrind i lywodraeth leol a oedd wastad yn frwd yn amddiffyn rôl hollbwysig awdurdodau lleol o fewn y fframwaith cyfansoddiadol cenedlaethol.

“Cafodd Dafydd ei dywys gan ei ymrwymiad pendant i’w bobl, ei genedl, a’i iaith trwy gydol ei gyfnodau fel Aelod Seneddol eithriadol yn San Steffan ac yng Nghymru. Ag yntau yn Llywydd ar agoriad y Cynulliad Cenedlaethol gwreiddiol, sydd nawr yn cael ei adnabod fel y Senedd, bydd Dafydd Elis-Thomas yn cael ei gydnabod yn ein llyfrau hanes fel un o brif benseiri datganoli a’r Gymru fodern. Bydd y gwaddol enfawr a adewir gan Dafydd Êl yn sicr yn parhau.

“Ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, estynnaf fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu Dafydd yn ystod y cyfnod trist hwn.”

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30