Mae Cyngor Caerffili a Heddlu Gwent wedi ymuno i lansio rhaglen arweinyddiaeth arloesol ar y cyd gyda'r nod o ddatblygu cenhedlaeth newydd o arweinwyr beiddgar ac arloesol.
Cafodd y fenter, o’r enw ‘FiNi’, ei lansio heddiw (dydd Mercher 7 Gorffennaf) gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
Syniad Christina Harrhy (Prif Weithredwr CBSC) a Pam Kelly (Prif Gwnstabl Heddlu Gwent) yw FiNi sy'n rhannu dyhead i ddatblygu rhaglen arweinyddiaeth uchelgeisiol i sicrhau bod gan uwch reolwyr y sgiliau a'r cymwyseddau uchaf.
Bydd wyth o weithwyr o'r ddau sefydliad yn ffurfio'r garfan gyntaf erioed i gymryd rhan yn y rhaglen - pedwar o Gyngor Caerffili a phedwar o Heddlu Gwent. Bydd y rhaglen arweinyddiaeth 12 mis yn cael ei darparu gan Brifysgol De Cymru a bydd y garfan gychwynnol yn allweddol wrth helpu llunio cyfeiriad a chynnwys y cwrs ar gyfer cyfranogwyr yn y dyfodol.