Arfer Da gan y Cyngor

Gwasanaeth Ymateb Lleol i gefnogi Pobl Agored i Niwed (CBS Blaenau Gwent) 

Fe greodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Wasanaeth Ymateb Lleol yn cynnwys staff a adleolwyd i gefnogi'r galw cynyddol am gefnogaeth anstatudol yn ymwneud â chyfyngiadau COVID-19 pan oedd y pandemig yn ei anterth ac i ddiogelu gofal cymdeithasol rheng flaen. Fe weithiodd y gwasanaeth hwn yn agos gyda'r Trydydd sector i ddarparu cefnogaeth barhaus i breswylwyr drwy'r cyfnod hwn. Mae preswylwyr wedi eu cefnogi gyda cheisiadau grant, banciau bwyd, atgyfeiriadau parhaus am gefnogaeth arbenigol fel gydag iechyd meddwl, Cymorth Alcohol a Chyffuriau Gwent, gwasanaethau cefnogi pobl a’r gwasanaethau cymdeithasol os oedd angen. Ar ddechrau’r cyfnod clo a thrwy’r haf fe fu'r cyngor yn ymdrin â thros 1000 o geisiadau am gymorth gyda siopa, casglu presgripsiynau a gweithgareddau cyfeillio eraill. Wrth i’r cyfyngiadau lacio ac wrth i bobl roi’r gorau i warchod eu hunain am y tro, edrychodd y cyngor ar yr opsiynau a ran lleihau’r gwasanaeth. Cysylltodd y tîm yn uniongyrchol gyda'r holl achosion agored i sicrhau y gallant drosglwyddo i drefniant mwy cynaliadwy o ran cefnogaeth.

Addasu cefnogaeth i ofalwyr ifanc Merthyr Tudful (CBS Merthyr Tudful) 

Mae gwasanaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar gyfer gofalwyr ifanc wedi gorfod addasu i ffordd newydd o weithio yn ystod y pandemig i ddiwallu anghenion gofalwyr ifanc a chefnogi eu diogelwch.

Mae asesiadau nawr yn cael eu cynnal drwy ddulliau digidol neu drwy sesiynau gardd lle cedwir pellter cymdeithasol.

Caiff sesiynau grŵp, fel côr y gofalwyr ifanc, eu cynnal nawr drwy zoom. Hefyd mae sesiynau un i un yn cael eu cynnal yn ddigidol ac yn yr awyr agored.

Mae’r cyngor yn cysylltu â’r holl ofalwyr ifanc yn wythnosol, a thrwy hyn fe archwilir cefnogaeth emosiynol ac ymarferol. Mae cefnogaeth ymarferol yn cynnwys cymorth gyda thasgau fel siopa, sy’n weithgaredd a allai fod wedi ei gefnogi’n flaenorol gan aelod o deulu estynedig. Mae cefnogi gofalwyr ifanc i ymgysylltu mewn sesiynau addysgol a chael mynediad i ddysgu digidol wedi bod yn faes cefnogaeth y mae’r gwasanaeth gofalwyr ifanc wedi gweithio gyda chydweithwyr yn y maes addysg i'w gyflawni.

Mae’r cyngor hefyd wedi darparu pecynnau gweithgaredd ac adnoddau i ofalwyr ifanc yn rheolaidd.

Mae’r lefel uchel o gyswllt sydd wedi ei gynnal â gofalwyr ifanc yn ystod y pandemig wedi galluogi’r cyngor i addasu i’w hanghenion cymorth, tra’n gweithio mewn dull sy’n glynu at ganllawiau'r llywodraeth.

Model Ar-lein ar gyfer darparu Gwasanaethau Ieuenctid (CBS Rhondda Cynon Taf) 

Mae Gwasanaeth Ymgysylltiad a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) Rhondda Cynon Taf wedi’u hymrwymo i gefnogi pobl ifanc 11 i 25 oed i wella eu cadernid i ddelio â heriau yn y presennol ac yn y dyfodol, gan gefnogi eu lles a’u hymgysylltiad cadarnhaol a chyfraniad yn y cymunedau maent yn byw.

Mae’r model darparu ar-lein newydd wedi cael ei ddatblygu a’i gyflwyno, yn ogystal â gwasanaethau negeseua gwib, clybiau ieuenctid ar-lein ar zoom a sesiynau holi ac ateb ar instagram ac ati, gan gynnwys WICID.TV, i bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant, ac yn cynnwys fideos ar amrywiaeth o destunau, megis gwneud cais am swydd, technegau STAR, cyfweliadau swydd ar-lein ac mae mwy o fideos yn cael eu hychwanegu bob wythnos. Mae’r adran Gwaith, Addysg a Hyfforddiant hefyd yn cynnwys dolenni i brentisiaethau sydd ar gael yn Rhondda Cynon Taf, cymorth Gyrfa Cymru, diwrnodau agored ar-lein colegau ac ati. Mewn partneriaeth â’r Cyngor roeddent hefyd yn gallu cynnig wythnos profiad gwaith ar-lein gyntaf yn Rhondda Cynon Taf, a oedd yn annog nifer o bobl ifanc 16 oed a hŷn i fynd ar-lein i gael cyngor ar yrfaoedd, ac ati.

Ymateb Dechreuol Arlwywyr Ysgolion i Brydau Ysgol am Ddim (Cymru Gyfan) 

Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru bod addysg statudol yn cael ei atal dros dro o ganol mis Mawrth 2020, un o’r pryderon mwyaf oedd sut i ddarparu ar gyfer y plant oedd â hawl i brydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod hwn. Yn yr wythnosau cyntaf, roedd Awdurdodau Lleol (ALl) yn darparu pecynnau bwyd i’w casglu o’r ysgolion, canolfannau lleol neu eu danfon i gartrefi. Fodd bynnag, roedd y nifer oedd yn defnyddio’r gwasanaeth yn isel, ac roedd gwastraff yn uchel felly nid oedd hyn yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod £7M ar gael i ALl ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys yn ystod gwyliau’r Pasg, a £33M ychwanegol hyd at ddiwedd gwyliau’r haf. Mewn ymateb, cynhaliodd a rheolodd CLlLC gyfarfodydd ar-lein cenedlaethol a rhanbarthol gydag arlwywyr ALl a Llywodraeth Cymru i olrhain a rhannu gwybodaeth am ymateb arlwywyr ysgolion a materion oedd yn codi. Roedd y cyfarfodydd hyn yn cyfrannu at Ganllawiau Prydau Ysgol am Ddim a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod y cyfnod dechreuol, datblygodd yr ALl ddarpariaeth yn unol â’u hanghenion a galw lleol a chynigiwyd y dewisiadau canlynol: taliadau uniongyrchol (17), danfon bwyd (10), talebau bwyd (8) neu wasanaeth casglu (1). Fodd bynnag, roedd y mwyafrif o ALl yn cynnig nifer o ddewisiadau, a oedd yn gweithio’n dda ac yn dangos pwysigrwydd dull lleol i gefnogi eu cymunedau lleol.

Datblygodd a chyhoeddodd CLlLC daflen wybodaeth Gwneud y Mwyaf o'ch taliadau neu dalebau Prydau Ysgol am Ddim i bob ALl er mwyn eu rhannu â rhieni, gan ddarparu argymhellion defnyddiol ar gynllunio, siopa a pharatoi bwyd maethlon, ynghyd â rhestr siopa posibl. Roedd Data Cymru hefyd yn casglu data ar ymateb ALl i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod hwn.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar yr ymateb dechreuol yn y Cyflwyniad 'Trosolwg o ymatebion Prydau Ysgol am Ddim  i COVID-19 yng Nghymru'.  

Cymorth ar gyfer Banciau Bwyd Sir Fynwy yn ystod Argyfwng Covid 

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio’n agos gyda banciau bwyd y sir, Trussell Trust a  Ravenhouse Trust.

Ar ddechrau’r cyfnod clo, nid oedd nifer o wirfoddolwyr y banciau bwyd oedd yn hŷn ac mewn perygl, yn gallu cefnogi’r banciau bwys yn uniongyrchol, ac roedd heriau cadw pellter cymdeithasol mewn unedau bychain.  Yn ogystal â hynny, roedd ceisiadau cynyddol am dalebau bwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, Cychwyn Cadarn a Chymdeithasau Tai.  Roedd rhaid i nifer o asiantaethau cymorth symud i weithio o adref ac roedd hyn yn ei gwneud yn anodd i rai gael gwybodaeth a chymorth yn y ffyrdd arferol, oedd yn cynnwys cau Canolfannau Cymunedol y Cyngor a oedd yn ddull atgyfeirio ar gyfer unigolion i gael mynediad i systemau banciau bwyd.

Ynghyd â banciau bwyd, sefydlwyd nifer o fentrau mynediad gan gynnwys system atgyfeirio digidol - gan adlewyrchu manylion “taleb” sy’n dangos holl wybodaeth sydd ei angen gan fanciau bwyd; tîm trawsadrannol, ymroddgar y cyngor yn gweithio gyda rheolwyr y banciau bwyd, yn gweithredu fel cyswllt rhwng yr unigolyn, asiantaethau a chludiant gyda mesurau diogelu ac ati.

Roedd cymorth hael Reuben Foundation wedi darparu 8 wythnos o gyflenwadau bwyd - £32,000 o fwyd. Mae’r mwyafrif wedi cael eu darparu erbyn hyn, ond mae’r cyflenwadau nad oedd yn gallu cael eu cadw’n lleol wedi cael eu rhoi yng Nghae Ras Chepstow.

Dolen fideo Partneriaeth Cymorth Banciau Bwyd Cae Ras Chepstow/Reuben Foundation a Chyngor Sir Fynwy

https://www.youtube.com/watch?v=5NZQRnBN4eI&feature=youtu.be

Dydd Iau, 17 Medi 2020 16:15:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed COVI9-19 COVID-19 (Banc Bwyd) Sir Fynwy

Gweithio mewn partneriaeth yn graidd i ailagor twristiaeth (CS Benfro) 

Mae ymagwedd Cyngor Sir Penfro tuag at reoli’r gyrchfan i sicrhau fod ymwelwyr, staff a chymunedau wedi eu cadw’n ddiogel dros yr haf wedi cynnwys llawer o weithio mewn partneriaeth.

Ar lefel ranbarthol, fe weithiodd y cyngor gyda Chynghorau Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gynghori Llywodraeth Cymru ar yr ymagwedd tuag at ailagor yr economi twristiaeth yn ddiogel. O ran ôl troed Sir Benfro mae grŵp tasg a gorffen seilwaith twristiaeth, yn cynnwys Cyngor Sir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Twristiaeth Sir Benfro a PLANED, yn ogystal â phartneriaid eraill fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Heddlu Dyfed Powys, wedi cydweithio i gydlynu’r ymagwedd tuag at ailagor y seilwaith ymwelwyr a’r strategaethau cynllunio risg a chyfathrebu.

Sefydlodd yr awdurdod Ganolfan Rheoli Digwyddiadau a oedd yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos, o fore tan nos, drwy gydol cyfnod gwyliau’r haf ac yn cynnwys cyfarfodydd amlasiantaeth yn cynnwys yr Heddlu, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, Tân ac Achub y gwasanaeth Ambiwlans ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Roedd tîm croesawu ymwelwyr, yn ogystal â staff o ystod o adrannau’r cyngor ac asiantaethau partner, yn bwydo gwybodaeth ar lawr gwlad i'r Ganolfan Rheoli Digwyddiadau er mwyn sicrhau datrysiad cyflym. Ymhlith y materion a gâi eu rheoli roedd cadw pellter cymdeithasol, sbwriel, ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwersylla gwyllt, troseddau parcio ayb. 

Dydd Iau, 17 Medi 2020 14:36:00 Categorïau: COVI9-19 COVID-19 (Twristiaeth - Partneriaeth) Economi Sir Benfro

Preswylwyr, busnesau a budd-ddeiliaid lleol sy’n ymwneud ag adferiad economaidd (CC Casnewydd) 

Mae adferiad economaidd, gan gynnwys ailagor canol y ddinas yn ddiogel, yn hanfodol i Gyngor Dinas Casnewydd ac mae cynllun adferiad economaidd wedi ei fabwysiadu gan gabinet y cyngor.

Fe gynhaliwyd arolwg ar gyfer preswylwyr a busnesau er mwyn deall pryderon a blaenoriaethau pobl a sefydlwyd Grŵp Tasg a Gorffen er mwyn canolbwyntio ar sut i ymgymryd ag adferiad economaidd mewn dull diogel yn seiliedig ar wybodaeth. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o Casnewydd Nawr Ardal Gwella Busnes , Heddlu Gwent, Cynrychiolwyr Busnes (gan gynnwys y Siambr Fasnach) a grwpiau’r trydydd sector fel Grŵp Mynediad Casnewydd, Guide Dogs Cymru a Pobl Casnewydd yn Gyntaf. Mae’r grŵp wedi bod yn canolbwyntio ar gyfathrebu a gwybodaeth, cefnogi busnesau Casnewydd, creu lle a diogelwch y cyhoedd.

Llyfrgelloedd yn mynd arlein i gefnogi defnyddwyr o bell (C Bro Morgannwg) 

Yn ystod y cyfnod clo fe ddatblygodd llyfrgelloedd ym Mro Morgannwg fentrau arlein i barhau i gefnogi defnyddwyr y llyfrgell o bell. Wrth i wasanaethau ailagor maent yn cynnal neu'n cynyddu lefelau o weithgarwch arlein ac yn gweld hyn fel dechrau dull newydd o weithio a darparu cynnwys arlein.

Mae’r llyfrgelloedd wedi gwneud defnydd helaeth o’r cyfryngau cymdeithasol, yn arbennig Facebook a Twitter, i ddarparu gweithgareddau niferus gan gynnwys amseroedd stori dwyieithog o lyfrgell y Bont-faen, a fideos amser rhigymau o lyfrgell Penarth.

Mae rhan helaeth y gwaith o greu’r fideos hyn yn cael ei wneud gan staff o gartref yn defnyddio eu hoffer eu hunain a’u harbenigedd eu hunain o ran ffilmio a golygu cynnwys fideo.

Mae clybiau arlein ar gyfer oedolion a phlant wedi eu sefydlu yn lle’r clybiau presennol sydd wedi eu lleoli yn y llyfrgell gan gynnwys clwb llyfrau arlein, clybiau lego arlein, clybiau côd a chlybiau celf.

Roedd cam un y broses o ailagor llyfrgelloedd Bro Morgannwg yn cynnwys darparu gwasanaeth llyfrau Clicio a Chasglu i gwsmeriaid, a datblygwyd system archebu arlein sydd wedi profi’n effeithiol.

Daeth presenoldeb cyffredinol Llyfrgelloedd Bro Morgannwg ar y cyfryngau cymdeithasol yn ganolbwynt ac maent wedi canfod eu bod yn cyrraedd cynulleidfa newydd ehangach drwy gyhoeddi cynnwys diddorol a doniol yn gyson yn hytrach na gwneud cyhoeddiadau a rhannu diweddariadau yn unig.

Dydd Iau, 17 Medi 2020 14:31:00 Categorïau: Bro Morgannwg COVI9-19 COVID-19 (Llyfrgelloedd - Digidol) Hamdden a Diwylliant

Addasu atyniad i dwristiaid at ddibenion gwahanol er mwyn cefnogi'r gymuned (CBS Caerffili) 

Mae Maenordy Llancaiach Fawr yn atyniad i dwristiaid wedi ei leoli yn Nelson, Caerffili, sy'n portreadu bywyd yn 1645 drwy ddehongliad byw i tua 60,000 o ymwelwyr a phlant ysgol bob blwyddyn. Hefyd mae yna ystafelloedd cynadledda, canolfan addysg, caffi, tŷ bwyta a siop anrhegion.

Yn ystod y cyfnod clo, fe wirfoddolodd y mwyafrif o staff i gael eu hadleoli i’r cynllun cyfeillio, i gasglu presgripsiynau a siopa ar gyfer preswylwyr diamddiffyn y fwrdeistref sirol a oedd yn gwarchod eu hunain. Ymunodd eraill â Thîm y Rhaglen Tracio ac Olrhain

Mae canolfan addysg wedi ei haddasu dros dro i weithredu fel canolbwynt dosbarthu. Caiff rhoddion eu casglu gan staff a chaiff parseli eu creu i’w dosbarthu i fanciau bwyd.

Mae’r bar a’r tŷ bwyta wedi eu defnyddio ar gyfer darparu canolbwynt gofal plant a gaiff ei gynnal mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y gwasanaeth Ysgol a Cherddoriaeth, Tîm Datblygu’r Celfyddydau a’r Gwasanaeth Ysgolion Iach er mwyn lleddfu materion yn ymwneud â gofal plant yn ystod gwyliau’r haf ar gyfer Gweithwyr Golau Glas.

Mae paratoadau ar gyfer y ‘normal newydd’ wedi cynnwys darparu gweithdai arlein a darparu gwasanaeth allgymorth i ysgolion. Mae’r caffi wedi ailagor a’r gerddi ffurfiol ac ardal y patio yn cynnwys seddi i eistedd yn yr awyr agored. Mae prydau i fynd a’r cinio dydd Sul wedi mynd o nerth i nerth.  

Theatr Clwyd yn parhau’n hanfodol ar gyfer y gymuned yn ystod y pandemig (CS y Fflint) 

Nid yw Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint ,wedi llwyfannu sioe ers misoedd ond mae wedi parhau’n hanfodol ar gyfer ei chymuned yn ystod y pandemig.

Mae wedi bod y brif ganolfan ar gyfer rhoi gwaed yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, gan gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd i gynnal eu cyflenwadau gwaed.

Gan weithio gyda gwasanaethau cymdeithasol y cyngor, maent wedi helpu gyda dosbarthu cyflenwadau bwyd i deuluoedd mewn angen o fewn y sir. Maent hefyd wedi cynnal apêl ‘Bocs Enfys’ llwyddiannus, a oedd yn gofyn i aelodau o’r gymuned i roi bocsys o ddeunyddiau celf a chrefft ar gyfer pobl ifanc ddiamddiffyn. Cafodd dros 300 eu rhoi a’u dosbarthu.

Symudodd y theatr ei holl weithdai wythnosol arlein (o'r grwpiau dementia i’r sesiynau ieuenctid) ac mae wedi bod yn eu darparu i dros 200 o bobl bob wythnos.

Dros yr haf, fe ddaeth y theatr yn un o’r prif ganolfannau ar gyfer plant diamddiffyn ac anabl yn Sir y Fflint a hefyd roedd yn cynnig lleoedd i blant gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru yn ystod gwyliau’r haf.

Mae'r theatr hefyd wedi cefnogi bachgen ifanc lleol, sydd wedi ei dderbyn i'r Ysgol Fale Frenhinol, ond y mae ei le wedi ei ohirio. Wedi i’w gynghorydd lleol gysylltu mae wedi bod yn hyfforddi ddwywaith yr wythnos ar y llwyfan.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30