Dyddiad Cau: Dydd Llun 24 Chwefror 2025 - Hanner Dydd
Dyddiad Cyfweliad: I'w Gadernhau
Cyflog: Gradd 7* £78,963
Tymor: Llawn Amser - Parhaol
Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol: Ydi
Cymraeg yn hanfodol: Na
Ynglŷn â’r Swydd
Mae ar CLlLC eisiau penodi Prif Swyddog Digidol gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad i helpu i siapio a datblygu rhaglen ddigidol y llywodraeth leol, gan ddarparu arweinyddiaeth strategol a rheoli tîm digidol CLlLC. Bydd angen dealltwriaeth dda o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu cynghorau/gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â rhwydweithiau effeithiol a pherthynas dda gydag arweinwyr digidol cynghorau Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ehangach (yn cynnwys prif swyddogion digidol Llywodraeth Cymru, y GIG, Canolfan Gwasanaethau Digidol Cyhoeddus a chyrff eraill).
Rydym ni’n chwilio am ymgeisydd eithriadol a brwdfrydig sy’n llawn cymhelliant i gefnogi gwaith trawsnewid digidol ar draws 22 o sefydliadau cymhleth ac amrywiol sy’n gweithredu mewn amgylchedd gwleidyddol. Byddwch yn darparu cyngor ac yn ymgysylltu’n rheolaidd â llefarwyr ac Uwch Dîm Rheoli CLlLC, ac yn adrodd i fwrdd a fydd yn goruchwylio’r gwaith ac yn monitro’r cynnydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Ennyn parch fel arweinydd digidol, credadwy, cydweithredol a dylanwadol sydd wedi ymrwymo i welliannau digidol parhaus
Meddu ar brofiad helaeth fel uwch-reolwr o fewn sefydliad amlddisgyblaethol gyda gyrfa dda o ddatblygu, arwain a chyflawni strategaethau, rhaglenni a phrosiectau llwyddiannus
Sicrhau bod gan y llywodraeth leol gynrychiolaeth gref ac effeithiol mewn perthynas â materion digidol ac yn rhan o drafodaethau cenedlaethol a rhanbarthol
Meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i reoli amrywiaeth o fudd-ddeiliaid gyda safbwyntiau gwahanol, gan sicrhau ffocws ar ddefnyddio technoleg arloesol a dulliau seiliedig ar ddata ar gyfer darparu gwasanaethau ac ymgysylltu cyhoeddus
Gweithio gydag uwch gydweithwyr polisi CLlLC a Data Cymru i gyflawni dull integredig ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus a thrawsnewid cynghorau, gan roi dinasyddion a defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus wrth wraidd dyluniad gwasanaethau
Cefnogi datblygiad talent ddigidol, gweithio gyda’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a phartneriaid eraill i feithrin gallu digidol ar draws y llywodraeth leol a’r sector cyhoeddus ehangach
Meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf, yn cynnwys y gallu i gyfleu cysyniadau technegol cymhleth i gynulleidfa annhechnegol
Ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog ac i hyrwyddo’r Gymraeg, gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried a’i chynnwys ymhob cynllun a strategaeth
Gwnewch gais Rŵan!
I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Tim Peppin, Cyfarwyddwr Corfforaethol (Darparu) ar tim.peppin@wlga.gov.uk
I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol gyda ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau, Dydd Llun 24 Chwefror 2025 am hanner dydd i: recruitment@wlga.gov.uk
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel dethol ar dyddiad i'w gadarnhau.
Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ogystal â thasgau cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.