Dywedodd y Cyng Anthony Hunt, Llefarydd CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau:
“Mae buddsoddi i’w groesawu, ond mae llywodraeth leol yng Nghymru yn pryderu’n wirioneddol i glywed am yr effaith ar swyddi o ganlyniad i’r newyddion heddiw am TATA.
“Byddai unrhyw ddiswyddiadau ar y raddfa yma yn ergyd ysgytwol i’r miloedd o deuluoedd, a byddai’r sgil-effeithiau ehangach yn cael eu teimlo yn yr economi a chymunedau.
“Mae angen eglurder a chefnogaeth ar frys i’r gweithwyr yn ystod yr amser aruthrol o ofidus hwn.”
DIWEDD -