Dylai ysgolion a gofal cymdeithasol fod ar flaen y ciw ar gyfer unrhyw gyllid ychwanegol sy’n llifo i Gymru yn dilyn Datganiad y Gwanwyn Llywodraeth y DU, meddai arweinwyr cynghorau.
Disgwylir y bydd gwariant Llywodraeth y DU ar addysg a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau yn Lloegr yn arwain at gyllid canlyniadol Barnett i Gymru, nad yw wedi’i gadarnhau eto.
Mae cynghorau’n rhybuddio y bydd cymunedau, heb gyllid teg a pharhaus, yn parhau i deimlo’r effaith drwy wasanaethau dan bwysau a llai o gefnogaeth i atal problemau cyn iddynt waethygu.
Un o’r pwysau mwyaf acíwt a amlygwyd gan gynghorau yw addysg. Mae tua thraean o holl wariant cynghorau yng Nghymru yn mynd ar ysgolion, gyda chostau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cynyddu’n sylweddol. Mae gwariant ADY yn cyfrif am fwy na chwarter holl bwysau cyllidebau ysgolion, gyda mwy na 70 y cant o wariant ADY yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi dysgwyr. Mae cynghorau’n dweud bod cymhlethdod cynyddol anghenion, ochr yn ochr â chostau trafnidiaeth dysgwyr a chostau’r gweithlu, yn creu straen ariannol anghynaladwy.
Mae cynghorau wedi adrodd gorwariant o £69 miliwn mewn gofal cymdeithasol yn ystod y flwyddyn, oherwydd cynnydd yn y galw ac achosion yn dod yn fwy cymhleth, gyda mwy na 81,000 o bobl yn dibynnu ar ofal a chymorth parhaus.
Mae pryderon hefyd wedi’u codi am ddyfodol buddsoddiad economaidd lleol. Cefnogodd Cronfa Ffyniant a Rennir y DU, a ddisodlodd gyllid yr UE, brosiectau a ddarperir yn lleol i greu swyddi a chryfhau cymunedau. Daw ei holynydd, y Gronfa Twf Lleol, â dyraniad cyffredinol sydd wedi’i leihau’n sylweddol. Mae cynghorau’n dweud y gallai hyn gyfyngu ar gefnogaeth i raglenni seiliedig ar le sy’n helpu busnesau i dyfu a phobl i mewn i waith.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd CLlLC dros Gyllid:
“Mae Datganiad y Gwanwyn yn cyflwyno cyfle. Os daw cyllid ychwanegol i Gymru, rhaid iddo gyrraedd y gwasanaethau rheng flaen y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd, yn enwedig ym maes addysg a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
“Mae cynghorau’n wynebu pwysau eithriadol ar draws y bwrdd, ond nid oes yr un mor ddifrifol ag mewn gofal cymdeithasol ac addysg. Nid yw’r rhain yn wasanaethau dewisol; maent yn linellau bywyd i deuluoedd a thrigolion sy’n agored i niwed.
“Rydym yn cynnig partneriaeth wirioneddol i Lywodraeth nesaf Cymru. Gwrandawodd Llywodraeth bresennol Cymru ar bryderon llywodraeth leol yn setliad y llynedd. Fy ngobaith yw y byddant yn gwneud yr un peth yma.
“Gyda chyllid teg, amlflwyddyn a ffocws ar y cyd ar atal, gall cynghorau symud y tu hwnt i reoli argyfwng i fuddsoddi mewn gwytnwch, twf a chanlyniadau gwell i bobl ledled Cymru.”