Anrhydeddau i Arweinydd a Llywydd CLlLC

Dydd Iau, 02 Mehefin 2022

Mae CLlLC heddiw yn llongyfarch ei Arweinydd, y Cynghorydd Andrew Morgan, a’r Llywydd, y Cynghorydd Huw David, ar gael eu cydnabod gydag OBE yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines eleni.

 

Dywedodd Chris Llewelyn, Prif Weithredwr CLlLC:

“Mae llywodraeth leol yn llawn o weision cyhoeddus ymroddgar, ac felly rydym ni’n eithriadol o falch i weld y Cynghorydd Andrew Morgan a’r Cynghorydd Huw David yn cael eu cydnabod am eu gwaith diflino.”

“Dros y ddwy flynedd a fu, bu Andrew yn arwain y Gymdeithas yn ei ffordd egniol, gynhwysol a chadarn ei hun. Fel Llywydd, bu Huw yn greiddiol yn tynnu’r 22 cyngor ynghyd i weithio ar y cyd yn ystod cyfnod a oedd yn eithriadol o heriol i lywodraeth leol. Yn syml, ni allwn ni or-bwysleisio cyfraniad ein arweinwyr cyngor i’r ymateb i COVID.

“Mae Andrew a Huw fel eu gilydd yn ymgorffori’r penderfyniad, pragmatiaeth a’r hygyrchedd sydd yn rinweddau nodweddiadol o gynghorwyr modern. Ar ran CLlLC, rydym ni’n eu llongyfarch yn fawr ar eu anrhydeddau tu hwnt o haeddiannol.”

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30