“Gobeithio am weld ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaethau lleol yn parhau”

Dydd Mawrth, 13 Rhagfyr 2022

Gan edrych ymlaen i’r setliad llywodraeth leol i’w gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fory, dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

 

“Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi ei gwneud yn hollol glir y niwed sy’n cael ei wneud i gyllidebau cyngor oherwydd pwyseddau chwyddiant eithriadol a biliau ynni afresymol. Yn eu tro, mae’r effeithiau ar ein cymunedau a thrigolion yn debygol o fod yn ddwys.”

“Fel mae’n sefyll, mae gwasanaethau lleol yn wynebu twll du cyllidebol o £784m dim ond am y flwyddyn nesaf, sydd ond yn debygol o gynyddu fwyfwy mewn blynyddoedd i ddod.

“Wrth edrych tuag at setliad llywodraeth leol, rydyn ni’n gwerthfawrogi mai cyfyng yw pŵer ariannol Llywodraeth Cymru, a rydyn ni felly yn realistig am y posibilrwydd am ddatrysiad a fydd yn cwrdd â’r pwyseddau anferthol. Ond, fel sydd wedi ei arddangos mewn ymgysylltu clós a setliadau cyllidebol y gorffennol, rydyn ni hefyd yn gwybod am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’n gwasanaethau lleol hanfodol sy’n cyfrannu cyn gymaint i’n cymunedau, Rydyn ni’n gobeithio’n arw i weld ymrwymiad, er yn anhebyg i gwrdd a’r bylchau cyllidebol anferthol, a fydd yn adlewyrchu pwysigrwydd ein gwasanaethau lleol sy’n cael eu rhedeg gan gynghorau.”

DIWEDD -

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30