Dyddiad Cau: Dydd Sul 7 Rhagfyr 2025
Dyddiad Cyfweliad: Dydd Mercher 17 Rhagfyr 2025
Cyflog: Gradd 5 (SCP 37-41) £48,226.39 - £52,413.22
Tymor: Llawn Amser – Parhaol – Agor i Secondiad
Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol: Ydi
Cymraeg yn hanfodol: Dymunol yn unig am y rol hon
Ynglŷn â’r Swydd
Yn 2026, bydd y Senedd, a elwir hefyd yn Senedd Cymru, yn ehangu ei nifer o Aelodau o 60 i 96, yn seiliedig ar 16 etholaeth chwe aelod. Bydd hyn yn dod â newid sylweddol i'r ffordd y mae'r Senedd yn gweithredu a bydd effeithiau ar ystod o gyrff sy'n gweithio'n agos gyda'r Senedd, gan gynnwys CLlLC a llywodraeth leol.
Mae hon yn swydd sydd newydd ei chreu o fewn CLlLC a bydd deiliad y swydd yn arwain ar ymgysylltu â'r Senedd (a Seneddau eraill ledled y DU) ar ran CLlLC ac yn gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer cydlynu ceisiadau am wybodaeth, tystiolaeth ac ymgysylltu gan CLlLC a chynghorau lleol, gan weithio'n agos gydag arweinwyr polisi perthnasol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am gadw trosolwg o waith y Senedd, gan gynnwys gwaith y Pwyllgorau, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau, cydweithwyr a chynghorau.
Bydd hon yn rôl allweddol wrth sicrhau bod CLlLC a llywodraeth leol yn gallu cynnal perthynas waith gadarnhaol gyda holl Aelodau'r Senedd a'u swyddogion ac wrth ddarparu cefnogaeth i sicrhau bod barn a llais llywodraeth leol yn cael eu cynrychioli a'u clywed yn effeithiol wrth ddylanwadu ar waith y Senedd.
Gwnewch gais Rŵan!
I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Paula Walters, Pennaeth Polisi a Gwasanaethau Corfforaethol ar paula.walters@wlga.gov.uk
I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol gyda ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau, Dydd Sul 7 Rhagfyr 2025 i: recruitment@wlga.gov.uk
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel dethol drwy Microsoft Teams neu wyned i wyneb dibynnu ar dewis
Bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ogystal â thasgau cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.