Yr wythnos hon mae Cynghorau yng Nghymru yn nodi Wythnos Gwaith Ieuenctid trwy ddiolch i weithwyr ieuenctid y wlad.
Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfle i ddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru; gyda’r nod o hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o, a chefnogaeth i waith ieuenctid.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Llefarydd CLlLC dros Addysg:
“Wedi bod yn athro fy hun, rwy’n gwybod faint mae pobl ifanc yn ei elwa o gael rhwydwaith cefnogol o’u hamgylch. Mae gweithwyr ieuenctid yn ffurfio rhan allweddol o’r rhwydwaith hwnnw, trwy wella bywydau ifanc a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn.
“Mae Gwaith Ieuenctid yn llwybr gyrfa sy’n rhoi boddhad mawr ac yn darparu amrywiaeth o fanteision a all wella rhagolygon a bywydau’r genhedlaeth nesaf. Mae’n helpu pobl ifanc i ddatblygu'n holistig, yn gymdeithasol ac yn datblygu hyder, hunan-barch a hunaniaeth pobl ifanc.
“Mae eu gwaith wedi bod yn bwysicach nag erioed yn ystod y flwyddyn heriol ddiwethaf a hoffwn ddiolch iddynt i gyd am eu cyfraniad enfawr mewn cyfnod mor anodd."