Wrth nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd, dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd (Casnewydd), Llefarydd Lles CLlLC:
“Efallai yn fwy nag erioed o’r blaen, rydym i gyd wedi gweld pwysigrwydd cysylltiad a chymuned yn ystod y 18 mis diwethaf. Mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn gallu cael effaith anferthol ar les meddyliol pobl a’u hansawdd bywyd. Mae gwasanaethau lleol sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor yn gallu helpu i ddarparu rhywle i bobl droi am gefnogaeth neu i gysylltu â phreswylwyr eraill.”
“O ystod o wasanaethau gofal cymdeithasol i ganolfannau hamdden ac asedau cymunedol, mae ein hawdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau gwella bywyd dirifedi sy’n gallu helpu pobl yn ein cymunedau i greu cysylltiadau. Bydd angen mannau o’r fath yn fwy nag erioed wrth i ni ddechrau ar y siwrnai faith o adfer yn dilyn y pandemig.”
“Ein gwasanaethau lleol yw’r glud sy’n cadw ein cymunedau gyda’i gilydd. Gyda buddsoddiad ychwanegol yn y gwasanaethau ataliol hyn, gallwn helpu i wneud yn siŵr nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl nac yn gorfod dioddef ar ben eu hunain.”
-DIWEDD-