Dyddiad Cau: Dydd Sul 20 Hydref 2024
Dyddiad Cyfweliad: Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024
Cyflog: Gradd 5 – SCP 33 - 41 (£41,418 - £49,498) (yn amodol ar Werthusiad Swydd)
Tymor: 18 Awr (2.5 diwrnod yr wythnos) Cyfnod Penodol am 2 Flynedd
Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol: Ydi
Cymraeg yn hanfodol: Na
Ynglŷn â’r Swydd
Mae Tîm Bwyd mewn Ysgolion CLlLC yn cynnwys Rheolwr Bwyd mewn Ysgolion, Cydlynydd Rhaglen Bwyd mewn Ysgolion (secondiad hyd at 2025) a Dietegydd Cenedlaethol ar gyfer Deietau Arbennig mewn Ysgolion. Maent yn cynghori ac yn cefnogi Llywodraeth Cymru, cynghorau, ysgolion ac asiantaethau partner am ddatblygu a gweithredu polisïau bwyd mewn ysgolion, gan ganolbwyntio ar fwyta’n iach a deietau arbennig.
Rhaid i’r bwyd a diod a ddarperir ym mhob ysgol a gynhelir gan y cyngor gydymffurfio â Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 (y ‘Rheoliadau’). Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r safonau bwyd a diod drwy gydol y diwrnod ysgol, y safonau maeth ar gyfer cinio ysgol arferol ac yn diffinio gofynion dietegol a ragnodir yn feddygol.
Rhoddodd Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (‘y Mesur’) rym i Weinidogion Cymru wneud y Rheoliadau uchod ac mae’n gosod sawl dyletswydd ar gynghorau a chyrff llywodraethu ysgolion i annog disgyblion i fwyta ac yfed yn iach.
Yn Pwysau Iach: Cymru Iach - Cynllun Cyflawni 2022 i 2024, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ‘adolygu’r rheoliadau ar faetheg bwyd ysgol yn unol â’r safonau a’r canllawiau maeth diweddaraf, a diweddaru’r safonau cyfredol’. Roedd hyn yn dilyn eu hymrwymiad i ‘ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd’ fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio: 2021, sy’n cefnogi ‘maeth plant a chynhyrchu a dosbarthu bwyd yn lleol’.
Yn seiliedig ar alwadau Llywodraeth Cymru, CLlLC a chynghorau, mae’r tîm yn cydlynu rhaglenni gwaith amrywiol. Mae aelodau’r tîm yn gweithio’n annibynnol ac mewn partneriaeth, gan gefnogi’r naill a’r llall a rhannu gwybodaeth, profiad ac opsiynau. Bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar dystysgrif DBS ddilys.
Mae’r tîm yn cynnig secondiad rhan amser (2.5 diwrnod yr wythnos) a dros dro (dwy flynedd) ar gyfer Cydlynydd Bwyd mewn Ysgolion Uwchradd i gynyddu eu capasiti. Bydd ddeiliad y swydd yn cydlynu ac yn cefnogi rhaglenni gwaith mewn ysgolion uwchradd. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
cefnogi datblygu bwydlenni a chydymffurfio â safonau bwyd a diod y Rheoliadau - parhaus.
cefnogi’r adolygiad i’r Rheoliadau a Bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir - Canllawiau statudol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu (‘Canllawiau Statudol’) - parhaus.
cydlynu’r gwaith o asesu ac adrodd yn ôl ar gydymffurfiaeth ymhlith cynghorau ac ysgolion o ran y Rheoliadau - o dro i dro.
cydlynu’r gwaith o ddynodi a rhannu arfer da ymhlith cynghorau ac ysgolion - i’w gynllunio.
cefnogi profion cyn ymgynghori ar y safonau bwyd a diod diwygiedig drafft a’r safonau maeth - i’w gynllunio; a
cefnogi ymchwil i’r ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau disgyblion am fwyd ysgol, gyda’r bwriad o wneud argymhellion - i’w gynllunio.
Gwnewch gais Rŵan!
I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Gareth Thomas Rheolwr Bwyd mewn Ysgolion ar 07794416187.
I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol gyda ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau,Dydd Sul 20 Hydref 2024 i: recruitment@wlga.gov.uk
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel dethol drwy Microsoft Teams ar Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024.
Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ogystal â thasgau cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.