Swyddog Polisi (Iechyd yr Amgylchedd Cymru)

Dyddiad Cau:            Dydd Iau 16 Ionawr 2025

Dyddiad Cyfweliad:  w/c 27 Ionawr 2024 (dyddiad tbc)


Cyflog:                   Gradd 5 (SCP 33 - 41) £42,708 - £50,788

Tymor:                    Llawn Amser – Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2027 (Croeso i secondiad gwneud cais gyda cytundeb cyflogwr)


Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol:  Ydi

Cymraeg yn hanfodol: Na


Ynglŷn â’r Swydd                                

Nod y swydd yw gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, sy’n ganolog i ddangos ymrwymiad ac effaith gadarnhaol y gwasanaethau ar ein cymunedau yng Nghymru.

Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at ddatblygiad a gwaith hyrwyddo strategaethau a pholisïau i gefnogi gwasanaethau rheoleiddio’r llywodraeth leol. Bydd yn darparu cefnogaeth a chyngor arbenigol ar bolisïau ar draws pob maes polisi perthnasol i Gymru.

Bydd yn gweithio gyda grŵp Iechyd yr Amgylchedd Cymru, sef corff sy’n cynrychioli uwch-reolwyr gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd awdurdodau lleol. Mae’r grŵp hwn yn gweithio’n strategol i ddylanwadu ar bolisïau ac arferion da mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd a lles mewn cymunedau. Caiff hyn ei gyflawni drwy gael un llais ar gyfer

gweithgareddau galluogi ac iechyd yr amgylchedd a wneir gan awdurdodau lleol, eu hasiantau, contractwyr a’u partneriaid.

Mae hon yn swydd genedlaethol sy’n cynnwys cryn dipyn o deithio ar hyd a lled Cymru i ymgysylltu a chydweithio ag amrywiaeth o fudd-ddeiliaid, yn cynnwys Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Safonau Masnach Cymru, sefydliadau Undeb Llafur a grwpiau defnyddwyr i hyrwyddo rhaglenni iechyd y cyhoedd newydd.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn bwynt cyswllt i gydlynu ymatebion i ymgynghoriadau perthnasol a cheisiadau am wybodaeth gan sefydliadau budd-ddeiliaid allweddol.

 

Gwnewch gais Rŵan!

I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Simon Wilkinson, Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Rheoleiddio ar 07500832252

I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol gyda ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau, Dydd Iau 16 Ionawr 2025 i: recruitment@wlga.gov.uk

Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel dethol drwy Timau Microsoft   w/c 27 Ionawr 2025 (dyddiad tbc).                            

Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ogystal â thasgau cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.


 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30