Dyddiad Cau: Dydd Iau 16 Ionawr 2025
Dyddiad Cyfweliad: w/c 27 Ionawr 2025 (dyddiad tbc)
Cyflog: Gradd 5 (SCP 33 - 41) £42,708 - £50,788
Tymor: Llawn Amser - Parhaol
Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol: Ydi
Cymraeg yn hanfodol: Na
Ynglŷn â’r Swydd
Dyma gyfle allweddol a deinamig i arwain y gwaith o ddatblygu polisïau a mentrau Safonau Masnach ledled Cymru, gan sicrhau bod y polisïau hyn yn mynd i’r afael yn effeithiol ag anghenion sy’n codi o ran iechyd y cyhoedd a diogelu defnyddwyr. Mae’r rôl yn ganolog i ysgogi cyfeiriad strategol y gwasanaethau Safonau Masnach, eirioli safbwyntiau polisi cadarn a dylanwadu ar raglenni lleol a chenedlaethol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am lunio polisïau newydd, arwain ymatebion i ymgynghoriadau a sicrhau bod safbwyntiau awdurdodau lleol yn cael eu cynrychioli’n dda o ran y tirlun polisi ehangach. Fel aelod allweddol o grŵp Safonau Masnach Cymru, byddwch yn cynrychioli’r Uwch Reolwyr Safonau Masnach o bob awdurdod lleol cyfansoddol, gan arwain y gwaith o ddatblygu arferion gorau o ran iechyd a lles y cyhoedd o fewn cymunedau lleol.
Dyma swydd genedlaethol lawn amser a pharhaol, sy’n cynnwys cryn deithio ar hyd a lled Cymru i ymgysylltu a chydweithio â sbectrwm eang o fudd-ddeiliaid. Mae’r rhain yn cynnwys Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru, Llywodraeth Cymru, CLlLC, y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach, Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd yr Amgylchedd Cymru a grwpiau defnyddwyr. Bydd eich arweinyddiaeth yn allweddol o ran siapio’r fframwaith polisi sy’n sail i waith yr endidau hyn.
Yn ogystal â datblygu polisi, bydd deiliad y swydd yn cydlynu ac yn arwain y gwaith o gyflwyno Cynllun Gwaith / Cynllun Gweithredu Blynyddol Safonau Masnach Cymru, goruchwylio dadansoddiadau strategol a hwyluso’r gwaith o ddatblygu hyfforddiant ac arweinyddiaeth ar gyfer ymarferwyr mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol.
Mae’r rôl yn cynnig cyfle i gael cryn ddylanwad ar ddyfodol Safonau Masnach yng Nghymru, gan sicrhau bod gwasanaethau’n cyd-fynd ag anghenion cymunedau lleol a’r sector cyhoeddus ehangach.
Gwnewch gais Rŵan!
I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Simon Wilkinson, Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Rheoleiddio ar 07500832252
I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol gyda ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau,Dydd Iau 16 Ionawr 2025 i: recruitment@wlga.gov.uk
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel dethol drwy timau Microsoft w/c 27 Ionawr 2025 (dyddiad tbc)
Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ogystal â thasgau cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.