Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithio gyda CLES - y sefydliad cenedlaethol ar gyfer economïau lleol, i lywio ei linell sylfaen ar gyfer cwmpas 3 fel rhan o brosiect Cadwyn Gyflenwi Sero Net y Cyngor.